Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth strategol newydd i hybu cydweithio ar draws y sector addysg uwch a’r sector treftadaeth yng Nghymru

9 Chwefror 2023

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o dan awyr las
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Cydnabyddiaeth: Amgueddfa Cymru

Mae Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru’n dod ynghyd i hybu cydweithio ar draws y sector addysg uwch a’r sector treftadaeth yng Nghymru.

Yn dilyn ffurfio partneriaeth strategol, bydd y ddau sefydliad yn cydweithio ar draws pum maes: ymchwil ac arloesedd; diogelu ac adfer yr amgylchedd; diwylliannau digidol a thechnolegau addasol; sgiliau, talent a dysgu gydol oes; a sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi treftadaeth.

Er bod y ddau sefydliad wedi cydweithio ers tro i fynd i’r afael â materion ymchwil, gan gynnwys materion dinesig a chymdeithasol, bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau bod arbenigedd, profiad ac adnoddau’r ddau sefydliad wedi’u halinio’n well â’i gilydd.

Yn y gorffennol, mae’r ddau sefydliad wedi cydweithio’n llwyddiannus ar brosiect Treftadaeth CAER, prosiectau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r biowyddorau ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru, a phrosiectau ymchwil fel ‘Ffoaduriaid Cymru – Bywyd wedi Trais’ a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, i enwi ond ychydig o bethau.

Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys datblygu cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer y genhedlaeth nesaf o raddedigion treftadaeth, creu mwy o gyfleoedd i gael secondiad yn y sefydliad arall, a sicrhau bod mwy o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol yn ymgymryd â phrosiectau, lleoliadau gwaith ac interniaethau.

Yn rhan o’r bartneriaeth, bydd academyddion o’r ddau sefydliad hefyd yn ymchwilio i atebion i heriau cyffredin, fel cyrraedd targedau ar gyfer carbon sero net a chreu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a heb gynrychiolaeth ddigonol drwy dechnolegau digidol.

Menyw yn siarad tra bod dyn y tu ôl iddi yn gwylio
Yr Athro Colin Riordan a Dr Kath Davies

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o adeiladu ar ein perthynas hirsefydlog â Phrifysgol Caerdydd a ffurfioli ein gwaith parhaus gyda'r sefydliad. Gallwn gydweithio mewn llawer o feysydd ac mewn llawer o ffyrdd, a thrwy hynny, ddysgu gan ein gilydd er budd ein holl gymunedau. Yn Amgueddfa Cymru, rydym yn gwneud ein holl waith mewn ffordd gydweithredol, ac mae’r bartneriaeth strategol hon yn enghraifft o hynny.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Mae gennym berthynas waith gadarn ac eang ag Amgueddfa Cymru. Mae’r bartneriaeth strategol hon yn adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni’n barod ac yn canolbwyntio ar rai o’r prif heriau a’r cyfleoedd cyffredin. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y cyfnod newydd hwn o gydweithio o fudd mawr i Gymru, yn ogystal â’r staff, y myfyrwyr a’r gymuned ehangach.”

Cynhaliwyd seremoni lofnodi ffurfiol rhwng y sefydliadau yn gynharach y mis hwn yn Adeilad Morgannwg y Brifysgol, yn erbyn cefndir yr arddangosfa Inside Out, casgliad o ffotograffau a dynnwyd gan Simon ac Anthony Campbell o Tiger Bay.

Elusen a theulu o saith amgueddfa genedlaethol sy’n adrodd hanes Cymru yw Amgueddfa Cymru. Ymhlith y saith amgueddfa mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

A man and a woman look at the camera as they sign a document on the table in front of them
Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan a Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru sy'n llofnodi'r bartneriaeth strategol yn ffurfiol. Yn y llun gwelir llun ohono o flaen llun a dynnwyd o'r arddangosfa Inside Out: sef arddangosfa o luniau a dynnwyd gan Simon ac Anthony Campbell o Tiger Bay

Rhannu’r stori hon

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.