Ewch i’r prif gynnwys

Amgueddfa Cymru

Mae ein partneriaeth strategol gydag Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ecosystemau treftadaeth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyfuno ein hymdrechion a'n doniau i greu effaith gymdeithasol ac economaidd.

A ninnau’n sefydliadau o bwys yng Nghymru, mae gennym hanes hir o gydweithio ag Amgueddfa Cymru ar fynd i'r afael ag ymchwil a materion dinesig a chymdeithasol. Yn gynnar yn 2023, bu i ni lofnodi partneriaeth strategol 5 mlynedd i sicrhau bod arbenigedd, profiad ac adnoddau’r ddau sefydliad yn cyd-fynd yn fwy â’i gilydd a’n bod yn cydweithio ar nodau strategol ar y cyd.

Bydd ein partneriaeth strategol yn canolbwyntio ar

  • ymchwil ac arloesi
  • diogelu ac adfer yr amgylchedd
  • creu diwylliannau digidol a thechnolegau addasol
  • sgiliau, talent a dysgu gydol oes
  • sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi ein treftadaeth.

Nodau ac amcanion

Mae ymchwil ac arloesi yn thema alluogi strategol ar draws pob ffrwd waith ac mae ein partneriaeth yn canolbwyntio ar y prif themâu strategol canlynol:

Diwylliannau digidol a thechnolegau addasol: Mae gallu sefydliad i addasu ei dechnoleg ddigidol at y dyfodol yn elfen allweddol o ran twf a goroesi. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i greu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach sydd heb gynrychiolaeth, a hynny drwy dechnolegau digidol a chynyddu prosiectau arloesi drwy dechnolegau addasol.

Lles drwy werthfawrogi ein treftadaeth: Mae lleoedd a phrofiadau sy’n ein hysbrydoli’n hollbwysig i les unigolion a phawb. Mae ystad Amgueddfa Cymru yn drysorfa o ysbrydoliaeth ac mae gan y ddau sefydliad ymdeimlad dwfn a chryf â lle; maent yn ymfalchïo nid yn unig ym mhrifddinas Cymru, ond hefyd yn nhreftadaeth gyfoethog ein gwlad.

Cynrychioli Pawb: Gan ei bod yn cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, bydd y thema hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ymgysylltu â'r cyhoedd a'r gymuned drwy'r holl weithgareddau ar y cyd yn helpu i beri i unigolion deimlo eu bod yn perthyn, eu bod yn gallu cyfranogi i’r broses o fod yn greadigol ac yn chwilfrydig yn ogystal â chymryd rhan.

Diogelu ac adfer yr amgylchedd: Er mwyn gwneud cynlluniau sy’n cyrraedd targedau sero net ar draws ystadau’r ddau sefydliad mae gofyn am ddatblygu technoleg newydd, newid ymddygiadol a chymdeithasol yn ogystal â chwyldro yn y seilwaith i gefnogi'r newid hwn. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth fydd yn cyflymu’r broses o arloesi a chefnogaeth yn y ddau sefydliad, yn ogystal â dealltwriaeth newydd o ymddygiad a rheoli’r galw.

Sgiliau, talent a dysgu gydol oes: Bydd y bartneriaeth strategol yn cefnogi ymgysylltu ac iddo ragor o strwythur o ran datblygu sgiliau, cyfleoedd ar gyfer graddedigion, talent a dysgu gydol oes yn y ddau sefydliad.

Arweinwyr y themâu

Mae'r academyddion canlynol yn helpu i lywio a datblygu cyfleoedd ar y cyd â’n cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru.

ThemaArweinwyr thema Prifysgol CaerdyddArweinwyr thema Amgueddfa Cymru
Diwylliannau Digidol a Thechnolegau Addasol

Alison Harvey, Archifydd, Gwasanaethau Llyfrgelloedd y Brifysgol

Dr Thomas Woolley, Yr Ysgol Mathemateg

Jess Hoare, Arweinydd Arloesi Digidol

Kristine Chapman, Prif Lyfrgellydd

Lles drwy werthfawrogi Treftadaeth

Yr Athro Bella Dicks, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Judith Ingram, Iechyd a Lles Myfyrwyr

Sharon Ford, Rheolwr y Rhaglen Iechyd a Lles
Cynrychioli PawbDr Ryan Prout, Yr Ysgol Ieithoedd ModernSioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg, ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned
Diogelu ac Adfer yr Amgylchedd

Dr Kersty Hobson, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Dr Pan He, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd

Kate Mortimer Jones, Uwch Guradur: Bioamrywiaeth Infertebratau (Infertebratau Morol)

Sara Younan, Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Sgiliau, Talent a Dysgu Gydol Oes

Yr Athro Holly Furneaux, Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Dr Liam Turner, Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Gemma Brown, Swyddog Datblygu Ymchwil

Prosiectau ar y cyd

Yn y gorffennol, mae’r ddau sefydliad wedi cydweithio’n llwyddiannus ar brosiect Treftadaeth CAER, prosiectau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r biowyddorau ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru, a phrosiectau ymchwil megis ‘Ffoaduriaid Cymru – Bywyd wedi Trais’ a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Ymhlith y cynlluniau at y dyfodol y mae datblygu cyrsiau penodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o raddedigion ym maes treftadaeth, creu rhagor o secondiadau ar gyfer staff yn y sefydliad arall a sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol yn ymgymryd â phrosiectau, lleoliadau gwaith ac interniaethau.

Ceir cynlluniau hefyd i ddatblygu’r genhadaeth ddinesig newydd yn ogystal â gweithgareddau ehangu cyfranogiad, arddangosfeydd ymdrochol a rhyngweithiol a phrosiectau yn y gymuned sy'n ymdrin â materion cymdeithasol o bwys, cydweithio â chymunedau lleol ar ddigwyddiadau ac arddangosfeydd sy'n berthnasol i'w hardal leol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi ymholiadau neu gwestiynau am y bartneriaeth, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth y brifysgol:

Audra Smith

Strategic partnerships manager