Ewch i’r prif gynnwys

"Gwella’r broses o ganfod tonnau disgyrchol"

22 Medi 2023

Myfyrwraig fenywaidd yn sefyll am ffotograff wrth ymyl ei phoster ymchwil o'r enw 'Solving the Mystery of Koi Fish Glitch Sources in LIGO'.
Cyflwynodd Em.J, myfyriwr israddedig Astroffiseg, ganfyddiadau ei lleoliad ymchwil haf mewn arddangosfa bosteri mewn fforwm ymchwil ym Mhrifysgol Talaith Louisiana (LSU).

Mae myfyriwr israddedig o Brifysgol Caerdydd wedi cydweithio ag academyddion o’r Unol Daleithiau ar brosiect i wella synwyryddion tonnau disgyrchol yn Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO) yn rhan o leoliad ymchwil dros yr haf.

Cynhaliodd Emily Joy Jones, Em.J, sydd ym mlwyddyn olaf ei gradd Astroffiseg (MPhys) yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, ymchwil dros gyfnod o 10 wythnos ym Mhrifysgol Talaith Louisiana (LSU) yn yr Unol Daleithiau.

Gan weithio gyda thîm nodweddu canfodydd LIGO, helpodd Em.J i ddod o hyd i ffynonellau nam (glitch) pysgod koi - math penodol o nam, wedi’u dosbarthu yn ôl eu morffoleg gan algorithm dysgu peiriannol o'r enw Gravity Spy.

Dywedodd Em.J: "Roedd hwn yn brosiect cyffrous iawn sydd wedi dysgu cymaint o sgiliau ffiseg newydd i mi.

"Er enghraifft, defnyddiais declyn o’r enw Hierarchical Veto ar ddata o drydydd rhediad arsylwi LIGO i geisio dod o hyd i ba rai o’r cannoedd o sianeli ategol yn LIGO Livingston oedd yn gysylltiedig â’r namau.

"Fe wnes i hefyd gynhyrchu sganiau Omega yn cynnwys plotiau cyfres amser a sbectrogramau o’r namau mwyaf o bob dadansoddiad i gael gwell dealltwriaeth o natur y namau hyn."

Dwy ddynes yn sefyll am ffotograff yn y cwad ym Mhrifysgol Talaith Louisiana.
Bu'r Athro Gabriela González (chwith) yn goruchwylio Em.J (dde) yn ystod ei lleoliad ymchwil ym Mhrifysgol Talaith Louisiana.

Arwr gwyddonol Em.J yw Stephen Hawking, a thra’r oedd ar y lleoliad, cafodd ei goruchwylio gan yr Athro Gabriela González, un o bedwar siaradwr proffil uchel a wahoddwyd i rannu’r llwyfan gyda Stephen Hawking yn ei symposiwm cyhoeddus yn 75 oed yn 2017.

Hefyd, gwahoddodd Hawking yr Athro González i roi cyflwyniad mewn cynhadledd wyddonol ryngwladol o'r enw 'Gravity and Black Holes' yng Nghanolfan y Gwyddorau Mathemategol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

"Roeddwn yn ffodus i gael Em.J yn gweithio gyda’n grŵp yr haf hwn," meddai’r Athro González.

"Fe wnaeth hi ein helpu ar brosiect heriol iawn a byddwn yn defnyddio ei chasgliadau i wella’r broses o ganfod tonnau disgyrchol gyda synwyryddion LIGO.

"Rwy’n edrych ymlaen at groesi llwybrau yn aml gyda hi yn y dyfodol!"

Roedd y lleoliad haf yn gyfle i Em.J gael profiad ymarferol yn y maes a mynd i’w chynhadledd academaidd gyntaf.

"Rwy’n meddwl bod LSU yn lle gwych!" meddai hi.

Mae menyw yn eistedd ar gwch yn dal aligator bach.
Em.J yn gwneud ffrindiau gyda'r bobl leol ar daith drwy gorsydd Mississippi.

"Mae’r campws yn brydferth ac mae cymaint o wahanol fathau o bobl y cefais gyfle i’w cyfarfod. Mae hyn yn wir hefyd am Baton Rouge fel dinas, ac roedd yn deimlad gwych gweld Afon Mississippi o'r diwedd â'm llygaid fy hun.

"Rwyf wedi mwynhaurhoi cynnig ar lawer o fathau newydd o fwyd nad wyf erioed wedi'u cael o'r blaen! Hwn oedd fy nhro cyntaf yn yr Unol Daleithiau hefyd, felly roedd dysgu am y diwylliant yma yn llawer o hwyl."

Ar ôl graddio, mae Em.J yn gobeithio astudio PhD mewn peirianneg neu astroffiseg ac mae'n bwriadu gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Dysgwch ragor am raglen Astroffiseg (MPhys) achrededig y Sefydliad Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.