Ewch i’r prif gynnwys

Podlediad ar gyfer Cennad Arlywyddol Arbennig yr Unol Daleithiau dros faterion yr Hinsawdd

20 Gorffennaf 2023

Ffotograffau o ddau ddyn ifanc. Lucas Zazzi Carbone ar y chwith a Piers O'Connor ar y dde.
Graddiodd Lucas (chwith) a Piers (dde) gyda graddau mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol (BSc) yn rhan o Raddedigion 2023.

Mae dau o raddedigion Prifysgol Caerdydd wedi rhannu eu profiadau o raglen gyfnewid lle aethon nhw ati i greu podlediadau am y newid yn yr hinsawdd y mae Cennad Arlywyddol Arbennig yr Unol Daleithiau dros faterion yr Hinsawdd, John Kerry wedi gwrando arnyn nhw.

Cymerodd Lucas Zazzi Carbone a Piers O'Connor, sy'n graddio heddiw yn rhan o Raddedigion Prifysgol Caerdydd 2023, ran mewn rhaglen gyfnewid addysgu Fulbright yn eu blwyddyn olaf yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

Arweiniwyd y rhaglen rithwir gan y gwyddonydd hinsawdd a'r rhewlifegydd Dr Samantha Buzzard o Brifysgol Caerdydd ac Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol o Brifysgol Shenandoah yn yr Unol Daleithiau, yr Athro Staci Strobl.

Yn rhan o Wobr Addysgu Heriau Byd-eang gan Gomisiwn Fulbright yr Unol Daleithiau-DU a Chyngor America ar Addysg, roedd y myfyrwyr wedi trafod materion allweddol o ran y newid yn yr hinsawdd a oedd yn cwmpasu sawl disgyblaeth, yn ogystal â chydweithio â'u cymheiriaid dros Fôr yr Iwerydd a manteisio ar arbenigedd aelodau'r ddwy gyfadran.

Yn ystod eu hasesiad terfynol, creodd y pâr bodlediad ar effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yng Ngorllewin Awstralia gyda'u cyd-fyfyrwyr yng Nghaerdydd a’u cymheiriaid yn Shenandoah.

Yn ddiarwybod iddyn nhw, ychydig fisoedd wedyn byddai John Kerry, Cennad Arlywyddol Arbennig yr Unol Daleithiau dros yr Hinsawdd yn gwrando ar y podlediadau mewn digwyddiad yn Llundain a gynhaliwyd gan Fulbright.

Dywedodd Piers, sy'n dod o Wicklow yn Iwerddon: “Pan glywais y newyddion, roeddwn i wedi cyffroi’n lân. Oeddwn i erioed wedi meddwl y byddai unrhyw un heblaw ein hathrawon yn gwrando ar ein podlediad? Nac oeddwn. Yna, heb i ni wybod roedd John Kerry wedi gwrando a doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth. Yn amlwg, y person cyntaf i mi ddweud wrtha i oedd Mam, ac roedd hi mor falch!

“Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar fyfyrwyr o bryd i'w gilydd gan fy mod i wir yn credu bod gennym gyfraniad eithaf sylweddol i'w wneud. Er y gall myfyrwyr fod yn naïf ac yn ddibrofiad, rwy'n credu bod y diniweidrwydd hwn mewn gwirionedd yn rhoi persbectif unigryw i ni sydd heb gael ei wanhau gan realiti bywyd gwaith hyd yma. Gallai hyn fod yn hanfodol ar gyfer credu yn y newid yn yr hinsawdd a gweithredu cadarnhaol o ran ei liniaru.”

Piers O'Connor

Roedd y profiad o gael y twrnai, y gwleidydd a'r diplomydd Americanaidd a gollodd i George W Bush yn etholiad Arlywyddol 2004 yn gwrando yn golygu llawer i gyd-ddisgybl Piers hefyd.

Dywedodd Lucas, sy'n dod o Cheltenham: “Rwy'n credu ei bod yn wych bod John Kerry, gwleidydd sy’n angerddol dros yr amgylchedd, yn bod yn rhagweithiol oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae'r holl wybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn cael ei darparu gan wyddonwyr yr hinsawdd.

“Ond bydd dull llywodraethau o gydweithredu ag amryw sectorau a gwyddonwyr yr hinsawdd sy'n gwella ein gallu i ymdopi ag effeithiau andwyol y newid hynny wir yn arwain at newid cadarnhaol!

“Mae'r ffaith bod John Kerry - rhywun sy’n gwneud penderfyniadau - yn gwrando ar ein podlediad yn dangos eu bod nhw am weld newid cadarnhaol, yn ogystal â dangos bod gwahanol wledydd yn cydweithio ar yr un mater, gan gynnig ffordd fwy amrywiol o feddwl wrth edrych ar y newid yn yr hinsawdd.”

Lucas Zazzi Carbone

Mae Lucas a Piers ill dau yn cytuno bod y rhaglen yn un o uchafbwyntiau eu graddau Daearyddiaeth Amgylcheddol, gan gynnig cyfleoedd iddyn nhw gydweithio â chyfoedion dramor, dysgu sgiliau newydd a myfyrio ar agweddau diwylliannol, gwleidyddol a deddfwriaethol y newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl graddio mae Lucas yn bwriadu teithio cyn ceisio am waith yn ymgynghorydd amgylcheddol neu mewn maes arall sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd.

Bydd Piers yn colli ei seremoni gan ei fod ar leoliad gwaith haf yn Vancouver ond mae'n bwriadu ymuno â'r dathliadau ar-lein. Mae am barhau i astudio a’i ddymuniad yw astudio rhaglen gradd Meistr ym maes y gwyddorau amgylcheddol.

Ychwanegodd: “Byddwn bendant yn argymell y rhaglen i fyfyrwyr eraill. Does dim dwywaith am hynny!

“Roedd wedi fy ysgogi a doedd hi ddim yn aseiniad arall fyddai neb byth yn ei ddarllen. Roedd yn dasg ryngwladol roedden ni wedi’i rhannu gyda’n cyfoedion a myfyrwyr mewn prifysgol arall ac, os ydych chi'n lwcus, Cennad yr Unol Daleithiau dros faterion yr hinsawdd!”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.