Ewch i’r prif gynnwys

“Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi”: Gyrfa ym maes ffiseg feddygol i Abigail Glover

19 Gorffennaf 2023

Llun o fenyw yn gwenu ar y camera
Mae’r myfyriwr graddedig Abigail Glover yn edrych ymlaen at yrfa yn wyddonydd meddygol.

Pan gafodd Abigail Glover drafferth gyda’i hiechyd meddwl yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn poeni efallai na fyddai’n gallu cwblhau ei hastudiaethau.

Ond diolch i’w phenderfyniad anhygoel a’i gwaith caled, mae hi bellach yn edrych ymlaen at yrfa yn wyddonydd clinigol ar ôl cwblhau ei gradd mewn Ffiseg Feddygol.

Mae gan Abigail, o Reading, le ar y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP), a bydd yn dechrau cwrs Meistr ym mis Medi.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i raddio,” meddai. “Mae’n mynd i fod yn eithaf emosiynol i mi. Rwy’n falch o'r hyn rydw i wedi'i wneud. Roedd yna lawer o adegau anodd lle roeddwn i'n teimlo fel rhoi'r gorau iddi. Ond roeddwn i eisoes wedi rhoi cymaint o waith i mewn i’r radd – byddwn rhoi gorau iddi wedi fy ngwneud yn drist iawn.”

Roedd Abigail mewn cysylltiad â thîm Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethon nhw ei chynghori a’i chefnogi pan benderfynodd gymryd hoe yn ei hastudiaethau yn ei hail flwyddyn, a hynny er mwyn canolbwyntio ar ei hiechyd meddwl.

“Roedd yn amser caled i mi,” meddai. “Es i yn ôl i fyw gyda fy nhad, sy’n berson cefnogol iawn. Mae fy mam, fy chwaer a fy nghariad yn anhygoel hefyd. Roedd y gwasanaethau cymorth a’r academyddion yng Nghaerdydd yno hefyd i’m harwain drwy’r cyfnod anodd. Roedden nhw wedi parhau i fy helpu cymaint â phosibl pan ddychwelais, er mwyn sicrhau y gallwn lwyddo yn fy ngradd. Rydw i mor ddiolchgar am eu cymorth.”

Wrth ddychwelyd at ei hastudiaethau, dywedodd: “Rwyf wedi dysgu llawer, nid yn unig ynglŷn â’r cwrs, ond am yr hyn rwy'n mwynhau ei wneud o ran gweithio. Roeddwn i wir yn hoffi'r agweddau mwy cymdeithasol, megis cyflwyniadau, ac yn arbennig fy mhrosiect blwyddyn olaf. Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio amser mewn ystafelloedd pelydr-X, cyfarfod â gwyddonwyr clinigol, a chael fy arwain trwy gydol y prosiect gan ffisegydd meddygol anhygoel. Dysgais gymaint a mwynheais yn fawr. Mae mwynhau'r hyn rydych chi'n ei wneud mor bwysig. Alla’ i ddim aros i ddechrau nawr ar fy hyfforddiant.”

Bydd Abigail yn mynd i’w seremoni raddio yr wythnos hon gyda’i thad Marcus a’i ddyweddi Roni, ei chariad Fraser.

“Pe bawn i’n gallu siarad â rhywun sydd mewn sefyllfa debyg i mi rai blynyddoedd yn ôl, byddwn i’n dweud peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Pan gewch chi gyfnodau anodd, byddan nhw’n pasio ac mae'n iawn gofyn am help.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.