Ewch i’r prif gynnwys

Gwerth £7.2m o gyfarpar diogelu personol i gael eu hanfon i Namibia o Gymru drwy un o brosiectau Prifysgol Caerdydd

26 Awst 2021

Professor Judith Hall, lead of the Phoenix Project, with Cardiff University Vice-Chancellor Professor Colin Riordan

Drwy un o brosiectau Prifysgol Caerdydd, bydd cyfarpar diogelu personol hanfodol yn cael eu hanfon i Namibia i helpu i fynd i’r afael â thrydedd don ddifrifol o achosion o COVID-19 yn y wlad.

Mae gwerth mwy na £7m o gyfarpar clinigol nad oes eu hangen ar y GIG yng Nghymru, sy’n cynnwys masgiau, gynau a hylif diheintio dwylo, yn cael eu rhoi drwy Brosiect Phoenix. Mae grant o £500,000 hefyd yn cael ei roi ar gyfer offer ocsigen a hyfforddiant i nyrsys.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yw Prosiect Phoenix. Mae’n ceisio lleihau tlodi a hyrwyddo iechyd ac amgylchedd cynaliadwy.

Gwnaeth yr Athro Judith Hall, arweinydd Prosiect Phoenix o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, bledio'n bersonol i Brif Weinidog Cymru i helpu'r wlad, sydd â'r gyfradd marwolaeth waethaf o ganlyniad i COVID-19 yn Affrica ac sydd mewn “angen eithafol”.

“Ffoniais Mark Drakeford, a gofynnais ‘Beth y gall pobl yng Nghymru ei wneud i helpu?’”, meddai'r Athro Hall.

“Gofynnais am rodd o gyfarpar diogelu personol gan Lywodraeth Cymru, ac anfonais restr ato o’r cannoedd ar filoedd o eitemau sydd eu hangen yn fawr iawn ar y Namibiaid i frwydro yn erbyn COVID-19. Trefnodd Llywodraeth Cymru rodd anhygoel o filiynau o eitemau, gwerth $150m o ddoleri Namibiaidd.

“Bydd y rhodd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chynaliadwy i bobl Namibia ac, yn y tymor byr, bydd miloedd o fywydau’n cael eu hachub. Dim ond am fod gennym gadwyni gwydn yma yng Nghymru ar gyfer cyflenwi cyfarpar diogelu personol y mae hyn yn bosibl, sy’n golygu y gallwn gynnig cymorth sydd ei fawr angen i’n partneriaid yn ne Affrica.

“Rydym yn falch iawn o fod yn anfon y rhodd o gyfarpar diogelu personol a rheoli’r grant ar gyfer offer ocsigen ar ran Llywodraeth Cymru.”

Mae'r rhodd yn cynnwys mwy na 1.1m o fasgiau wyneb, 500,000 o ynau, 100,000 o ffedogau amddiffynnol a gwerth mwy na £1m o hylif diheintio dwylo. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig grant o £500,000 ar gyfer hyfforddiant i nyrsys ac offer ocsigen hanfodol drwy ei rhaglen Cymru ac Affrica.

Roedd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, ac Uchel Gomisiynydd Namibia i'r DU, Linda Scott, yn bresennol mewn cyfarfod i drosglwyddo'r cyfarpar clinigol i'w cludo ddydd Mawrth. Bydd y cynwysyddion yn cael eu cludo’r wythnos nesaf ac yn cyrraedd Namibia 20 diwrnod yn ddiweddarach.

Meddai’r Athro Riordan: “Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i’w pherthynas â Phrifysgol Namibia am y tymor hir. Mae'r cyllid y trefnwyd ei fod ar gael dros y saith mlynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth mewn amrywiaeth eang o ffyrdd sylweddol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r prosiect wedi sicrhau dros £8m o gyllid yn allanol, sy’n helpu i wella bywydau yn Affrica a Chymru mewn ffordd gynaliadwy. Dyma gyflawniad enfawr yn ystod pandemig.

“Rwy’n falch iawn bod y prosiect hwn wrth wraidd ein Cenhadaeth Ddinesig, ac rwyf am weld Prosiect Phoenix yn parhau i fynd o nerth i nerth, drwy weithio’n unol â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau i fod yn genedl fyd-eang.”

Welsh First Minister Mark Drakeford and Professor Colin Riordan

Cyfarfu'r Athro Kenneth Matengu o Brifysgol Namibia â Mr Drakeford hefyd ym mis Mehefin. Yn y cyfarfod, rhoddodd yr Athro Matengu gyfrif teimladwy o'r sefyllfa ofnadwy yn Namibia, drwy esbonio bod staff y Brifysgol yn marw bob dydd a bod yr ysbytai wedi’u gorlethu.

Meddai Mr Drakeford: “Rwyf wedi clywed Namibia’n sôn yn uniongyrchol am y sefyllfa eithriadol o anodd yno yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae dyletswydd arnom i helpu'r rhai mewn angen, ac rwy'n falch o’r ffaith bod Cymru’n cynnig cymorth i frwydro yn erbyn COVID-19 yn fyd-eang. Bydd Cymru’n sefyll ochr yn ochr â Namibia, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu drwy'r amser anodd hwn.”

Meddai’r Athro Matengu: “Ar hyn o bryd, mae angen i’n ffrindiau rhyngwladol ein helpu i wrthwynebu llif y pandemig hwn, ac mae Cymru wedi bod yn bartner cyson i ni ers saith mlynedd. Drwy Brif Weinidog Cymru a'r cymorth hwn gan bobl Cymru, byddwn yn fwy gwydn wrth ymateb i glefydau’n uniongyrchol ac yn y tymor hwy. Mae’r Is-Lywydd wedi ffonio Prif Weinidog Cymru i ddiolch o galon iddo.”

Meddai Uchel Gomisiynydd Namibia, Linda Scott: “Ar ôl i’n heconomi a’n system iechyd weld ychydig flynyddoedd difrifol oherwydd effaith newid yn yr hinsawdd a nawr COVID-19, rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am y rhodd hon. Bydd ein gweithwyr iechyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt geisio achub bywydau. Bydd hefyd yn sicrhau bod y rhai mewn ardaloedd gwledig yn gwybod eu bod yn cael eu hystyried yn bwysig. Diolch, Gymru.”

Mae'r datblygiadau hyn yn dilyn grant gan Lywodraeth Cymru o £125,000 a roddwyd yn gynharach eleni i Brosiect Phoenix er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r angen i frechu pobl Namibia yn erbyn COVID-19. Roedd y grant cynharach hwn ar gyfer brechu’r bobl fwyaf difreintiedig yn Namibia, gan gynnwys pobl ag anableddau, yr henoed a phobl eiddil a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell.

Mae Prosiect Phoenix wedi gweithio gyda Namibia ers saith mlynedd ac wedi arwain a rheoli mwy na 52 o wahanol brosiectau yn y wlad.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project

Professor Hall, Mr Drakeford, Namibian High Comissioner Linda Scott and Professor Riordan

Rhannu’r stori hon