Ewch i’r prif gynnwys

Trosglwyddiad cyfartal a chyfiawn i Sero Net yng Nghymru

7 Mehefin 2023

A photo of a Welsh town and hills in the background with wind turbines

Mae adroddiad gan academyddion Prifysgol Caerdydd yn dangos bod angen gweithredu ar frys i leihau anghydraddoldebau ac i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i Sero Net yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyflawni Sero Net yng Nghymru erbyn 2050. Mae'r term 'Sero Net' yn cyfeirio at sefyllfa lle mae cymaint o garbon yn cael ei dynnu allan o'r atmosffer ag sy'n cael ei greu. Mae'n adlewyrchu nod cynaliadwy tymor hwy i leihau cyfanswm y carbon yn yr atmosffer drwy leihau ei gynhyrchiant. Mae academyddion wedi ymchwilio i sut y gellid trosglwyddo i Sero Net mewn ffordd deg a chynhwysol, gan 'beidio â gadael neb ar ôl.'

Er mwyn ysgrifennu’r adroddiad, gweithiodd academyddion ar y cyd â Llywodraeth Cymru, busnesau, undebau llafur, a chyrff anllywodraethol Cymru. Mae’r tîm ymchwil wedi ystyried sut y bydd yr anghydraddoldebau presennol o ran sgiliau, cyflogaeth, a gwahanu galwedigaethol yn gwneud y newid i Sero Net yn fwy heriol yng Nghymru.

Cyflwynwyd nifer o argymhellion ganddynt, gan gynnwys:

  • buddsoddiad uniongyrchol mewn ynni adnewyddadwy ac i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol a modelu gwaith teg.
  • rhaglen drawsnewid ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle
  • rhaglen llythrennedd carbon torfol – mynd â dysgu o gymunedau i mewn i waith a dysgu o waith yn ôl i gymunedau.

Mae ymchwilwyr yn dweud y dylai'r camau hyn gyfrannu at gynhyrchu'r gweithwyr ac entrepreneuriaid amrywiol, cymwys neu wedi'u huwchsgilio, sydd eu hangen i gyflawni uchelgeisiau Sero Net Cymru.

“Mae’r economi sy’n newid yng Nghymru, o ran y digidol a Sero Net, yn gofyn am raglenni ymyrraeth sylweddol i sicrhau y gall pawb elwa ar dwf yn y sectorau a’r galwedigaethau hyn sy'n dameidiog iawn ar hyn o bryd. Mae cyfran fach iawn o fenywod, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl ar hyn o bryd yn gweithio ym maes digidol/AI, ym meysydd ynni, adeiladu, trafnidiaeth, a bioamrywiaeth. Noda'r adroddiad na all Cymru sicrhau'r gweithlu sgilgar sydd ei angen i symud at Sero Net, heb gynnwys pawb yn y trawsnewidiad hwnnw."
Dr Alison Parken Senior Research Fellow, Wales Centre for Public Policy

Dyma awduron yr adroddiad: Dr Alison Parken (Ysgol Busnes Caerdydd), Dr Sara MacBride-Stewart (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol), Yr Athro Rachel Ashworth (Ysgol Busnes Caerdydd), a Dr Rachel Minto (Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth).

Gellir darllen yr adroddiad ‘Trosglwyddiad cyfartal a chyfiawn i Sero Net’ yma.

Rhannu’r stori hon