Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad canolfan newydd yn arddangos datblygiadau arloesol ym maes ymchwil i gatalysis

29 Mawrth 2023

Mae dwy res o bobl yn gwisgo cotiau labordy yn cael tynnu eu lluniau mewn labordy yng Nghanolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd
Cynrychiolwyr yn mynd ar daith o amgylch y labordai o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd lle bydd ymchwilwyr yn datblygu catalyddion diogel, cynaliadwy, masnachol, y gellir eu cymhwyso mewn ffyrdd newydd, ymhellach. Y rhes gefn (Ch-Dd) Yr Athro Richard Catlow, Beatriz Roldán Cuenya, Serena DeBeer, Ferdi Schueth a Rudolf Allemann. Y rhes flaen (Ch-Dd) Yr Athro Graham Hutchings, yr Athro Colin Riordan, y Llysgennad Miguel Berger a'r Athro Martin Stratmann.

Mae'r datblygiadau gwyddonol sydd eu hangen i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yn y diwydiannau cemegol yn bosibl gydag ymchwil arloesol i gatalysis, yn ôl gwyddonwyr blaenllaw.

Wrth siarad yn lansiad Canolfan Max Planck ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd (MPC FUNCAT) ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd ymchwilwyr o bob cwr o’r DU ac Ewrop fod gwaith y ganolfan yn gwneud cyfraniad allweddol at yr ymchwil am blaned lanach a gwyrddach.

Mae MPC FUNCAT, yn cyfuno arbenigedd o’r radd flaenaf o Sefydliad Catalysis Caerdydd gyda’r Sefydliad Max Planck ar gyfer Trosi Ynni Cemegol, Sefydliad Fritz Haber o Gymdeithas Max Planck a’r Max-Planck-Institut für Kohlenforschung.

Ar y cyd maent wedi ymrwymo i wella'n dealltwriaeth o beth yw catalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda byd diwydiant, a hyrwyddo’r defnydd o gatalysis yn dechnoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius ym maes Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyd-gyfarwyddwyr y ganolfan: "Bydd dyfodol ymchwil i faes catalysis yn dibynnu’n fawr ar y cysylltiad rhwng theori ac arbrofi gyda’n dulliau damcaniaethol yn dod yn fwyfwy rhagfynegol trwy ddatblygiadau arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial a data mawr.

Bydd y dull newydd hwn o ddylunio catalyddion, unwaith eto, yn hwb enfawr i ddatblygiadau economaidd yn y dyfodol, y tro hwn i gyfeiriad economi niwtral o ran yr hinsawdd, wrth i ni geisio catalyddion sy’n trosi CO2 yn fethanol y gellir ei ddefnyddio’n danwydd.Gallai catalydd o’r fath helpu i gwrdd â’r galw am danwydd synthetig a’r symud tuag at economi gylchol ym maes cynhyrchu cemegau gan, ar yr un pryd, leihau ôl troed CO2.

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute
Mae dyn sy'n gwisgo siwt yn annerch cynulleidfa. Y tu ôl iddo mae poster ar gyfer Sefydliad Catalysis Caerdydd
Yr Athro Graham Hutchings yn croesawu cynrychiolwyr i sbarc|spark ar gyfer agoriad Canolfan Max Planck ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd

Roedd y lansiad, a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 2020 ond a gafodd ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19, yn arddangos yr ymchwil gydweithredol sydd eisoes ar y gweill i leihau carbon deuocsid, electrolysis dŵr, synthesis hydrogen perocsid, synthesis amonia, cemeg asetylen, mecanocemeg, a gronynnau deufetelaidd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a oedd yn y digwyddiad lansio: "Mae bod yn bartner yng Nghanolfan Max Planck yn eithriadol o bwysig i Brifysgol Caerdydd ac yn benllanw ein llwyddiannau a’n cyflawniadau ymchwil ym maes catalysis yn dyddio’n ôl i 1997 pan gyrhaeddodd yr Athro Hutchings Gaerdydd.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn hollbwysig i wyddoniaeth ledled Cymru, y DU ac Ewrop. Yn wir, mae'n destament i werth cydweithio ar ymchwil yn dilyn Brexit; mae’n dod â rhagoriaeth ym maes catalysis heterogenaidd ynghyd o bedair canolfan ymchwil sy’n eithriadol yn rhyngwladol, hynny gartref a thramor. Rwy'n gyffrous i glywed am y darganfyddiadau newydd a fydd yn cael eu gwneud.

Yr Athro Colin Riordan
Mae dyn sy'n gwisgo siwt yn annerch cynulleidfa. Y tu ôl iddo mae poster ar gyfer Sefydliad Catalysis Caerdydd
Yr Is-ganghellor yr Athro Colin Riordan yn trafod effaith ymchwil i faes catalysis ym Mhrifysgol Caerdydd

Yn rhan o'r lansiad bu cynrychiolwyr gan gynnwys Llysgennad yr Almaen ar gyfer y DU, Miguel Berger, ar daith o amgylch Canolfan Ymchwil Drosi newydd Prifysgol Caerdydd (TRH).

Mae TRH yn gyfleuster pwrpasol newydd, ac ynddo labordai, ystafelloedd cyfarfod, a swyddfeydd ar gyfer meithrin partneriaethau rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd sy’n llywio arloesedd a nodau Sero Net y Brifysgol ar gyfer gwyddorau catalysis a lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Ychwanegodd yr Athro Hutchings: "Daw lansiad swyddogol Canolfan Max Planck ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd ar adeg gyffrous yn yr ymchwil i gatalysis ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'r bartneriaeth a’r symud i gyfleusterau o'r radd flaenaf yn y TRH yn ddatganiad o gyfleoedd newydd i ni ddatblygu catalyddion diogel, cynaliadwy, masnachol, y gellir eu cymhwyso mewn ffyrdd newydd, ymhellach."

Bydd MPC FUNCAT yn rhannu seilwaith, deunyddiau, ac offer ymchwil, gan gefnogi gwaith pontio pob sefydliad tuag at gynaliadwyedd.

Dywedodd yr Athro Serena DeBeer, Cyfarwyddwr Sefydliad Max Planck ar gyfer Trosi Ynni Cemegol: "Mae MPC FUNCAT yn rhoi cyfle unigryw i alluogi synergeddau newydd rhwng grwpiau blaenllaw mewn ymchwil catalysis.

"Mae’n amlwg bod angen atebion creadigol mewn catalysis i symud tuag at ddyfodol cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys prosesau catalytig heterogenaidd, ond hefyd ymgorffori nodweddion adweithedd allweddol o gatalyddion homogenaidd a biolegol.

"Mae FUNCAT yn dwyn ynghyd ystod eang o arbenigedd mewn theori ac arbrofi, i wthio ein dealltwriaeth sylfaenol o drawsnewidiadau cemegol ymlaen ac i symud yn agos at y nod o ddylunio catalytig rhesymegol."

Dywedodd Ferdi Schüth, Cyfarwyddwr yn y Max-Planck-Institut für Kohlenforschung: "Yma, mae pedwar prif labordy yn ymrwymo i bartneriaeth sefydliadol sy’n golygu’u bod yn dwyn eu hadnoddau ynghyd ac yn cymryd agwedd arloesol at ymchwil i faes catalysis.

"Trwy wneud hynny, rydym yn y pen draw yn ymdrechu i gael dyluniad rhesymegol ar gyfer catalyddion."

Ers ei sefydlu ym 1948, mae 18 llawryfog Nobel wedi dod o Gymdeithas Max Planck, gan ei roi ar yr un lefel â'r sefydliadau ymchwil gorau ac uchaf eu parch ar draws y byd.

Mae Canolfannau Max Planck (MPC) yn elfen ganolog o strategaeth ryngwladol Cymdeithas Max Planck.

Ychwanegodd Llywydd Max Planck, Martin Stratmann: "Mae ymchwil i faes catalysis yn gwneud cyfraniad hollbwysig at drosi a storio ynni, ond yn fwy cyffredinol i ddatblygiad economaidd-gymdeithasol, yn enwedig tuag at economi gylchol.

"Mae nifer o gwestiynau sylfaenol yma, o hyd, y bydd Canolfan Max Planck ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i'w hateb."

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.