Celebrating the 300th birthday of "Wales' greatest thinker"
17 Chwefror 2023
Dywedir mai Richard Price, a anwyd yn Llangeinwyr ym 1723, yw “meddyliwr mwyaf Cymru.”
Mae ei gyfraniadau parhaol yn rhychwantu nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys athroniaeth foesol, mathemateg a diwinyddiaeth. Cafodd effaith enfawr yn sgîl y ffaith ei fod yn ddeallusyn cyhoeddus, yn enwedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.
Mae'r 23 Chwefror yw drichanmlwyddiant geni Richard Price, ac mae cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal i ddathlu bywyd a gwaith y meddyliwr dylanwadol.
Bydd digwyddiad penblwydd Richard Price yn 300 yn Llangeinwyr yn cael ei gynnal ar Chwefror 23, ac ar y cyd â lansio’r arddangosfa bydd sgyrsiau, darlleniadau o’r ddrama ac o farddoniaeth.
Ar 28 Chwefror, bydd darlith cyhoeddus ar 'Revolutionary Friendships: Richard Price, Benjamin Franklin, Thomas Jefferson, and the Cause of Independence' gan Dr Patrick Spero, a fydd yn ymweld o Philadelphia, lle mae'n Llyfrgellydd a Chyfarwyddwr Llyfrgell ac Amgueddfa Cymdeithas Athronyddol America.
Dyma a ddywedodd Dr Huw Williams, sy’n gweithio yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol: “Yn ôl y moliant a’r ysgrifau coffa a ysgrifennwyd pan fu farw ym 1791, byddai enw Richard Price yn cael ei goffáu ar y cyd ag enwogion megis Benjamin Franklin, John Locke, George Washington a Thomas Paine. Roedd yn un o'r ffigurau hynny a luniodd y byd modern.
“Ond dri chan mlynedd ers ei eni ym mhentref Llangeinwyr, ger Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru, mae wedi mynd yn ddifancoll o’n cof.
“Ers talwm, nid yw ei gyfraniadau ym meysydd gwleidyddiaeth, athroniaeth a gwyddoniaeth wedi cael eu gwerthfawrogi. Calonogol felly yw gweld nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu ei fywyd – yn ei bentref genedigol, Llangeinwyr, y Pierhead ym Mae Caerdydd, yn ogystal â gweithgareddau addysgol a drama sy’n ymwneud â bywyd ac oes Price a’i berthnasedd cyfoes. Yn fwy nag erioed, ymddengys, mae ei werthoedd a gwaith ei fywyd yn siarad â ni ar hyd y canrifoedd.”
Ewch i'n tudalennau digwyddiadau i gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sydd i ddod.