Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu pen-blwydd Richard Price yn 300 oed

Dydd Iau, 23 Chwefror 2023
Calendar 11:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A portrait of Richard Price

Digwyddiad i ddathlu meddyliwr mwyaf Cymru, o fewn golwg ei gartref yn Llangeinwyr.

Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd yr athronydd Cymreig dylanwadol Richard Price ar ben-blwydd ei eni 300 mlynedd yn ôl. 

Mae Canolfan Richard Price yn Llangeinwyr yn cynnal arddangosfa a diwrnod o sgyrsiau, darnau o ddrama newydd a barddoniaeth i ddathlu bywyd a gwaith Richard Price. 

Athronydd moesol, mathemategydd, a chefnogwr selog y chwyldroadau yn UDA a Ffrainc oedd Richard Price, a anwyd ar 23 Chwefror 1723. Ymhlith ei gylch o gyfeillion roedd Benjamin Franklin, William Pitt, Arglwydd Shelburne, a David Hume.

Yn dilyn y digwyddiad, bydd yr arddangosfa hefyd ar agor ar 24 Chwefror rhwng 10:00 a 16:00 a 25 Chwefror rhwng 10:00 a 14:00.

Richard Price Centre
Bettws Road
Llangeinor
Bridgend
CF32 8PF

Rhannwch y digwyddiad hwn