Ewch i’r prif gynnwys

Stensil celf stryd newydd sy’n dathlu athronydd o Gymru sydd heb ei werthfawrogi'n ddigonol

5 Rhagfyr 2022

Richard Price stencil

Bwriad y portread yw ceisio ailennyn diddordeb yn ysgrifau Richard Price

Mae'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi comisiynu portread stensil maint go iawn newydd o'r athronydd Richard Price a fu’n byw yn y 18fed ganrif.

Ganed Price yn Llangeinwyr ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1723. Aeth yn ei flaen i wneud cyfraniadau pwysig ym maes theori tebygolrwydd, athroniaeth foesol a diwinyddiaeth naturiol, ond ei weithiau mwyaf dylanwadol oedd ei ddadleuon gwleidyddol dros ryddid yr unigolyn a llywodraeth ddemocrataidd.

Roedd yn weinidog gyda’r Undodiaid yn y Tŷ Cwrdd yn Newington Green, Llundain, pan ysgrifennodd y dadleuon hyn. Ymosododd Edmund Burke ar ei syniadau, gan ysgogi dau aelod o gynulleidfa Price, Mary Wollstonecraft a Thomas Paine, i amddiffyn ac ymestyn ei feddwl mewn gweithiau sydd wedi mynd yn destunau canolog ym maes athroniaeth wleidyddol.

Er gwaethaf ei arwyddocâd hanesyddol ac athronyddol, nid yw ysgrifau Price ei hun wedi cael llawer o sylw yn ystod y degawdau diwethaf. Esbonia  Dr Huw Williams, Darllenydd Athroniaeth:

“Mae Richard Price yn athronydd hynod o bwysig a fu’n hyrwyddo gwerthoedd sy'n parhau i fod wrth galon gwleidyddiaeth ddemocrataidd. Roedd ei waith yn pregethu pwysigrwydd rhyddid a rhinwedd, yn ogystal â'r angen i dymheru ein gwladgarwch â daioni cyffredinol. Dylem ystyried ei ysgolheictod o’r newydd, a hynny i weld pa ddealltwriaeth y mae’n ei chynnig yn ystod y cyfnod cythryblus rydyn ni’n byw ynddo”.

Stewy, yr ymddangosodd ei bortread enwog o Wollstonecraft am y tro cyntaf ar wal allanol y Tŷ Cwrdd yn Newington Green yn 2013, sy’n gyfrifol am y stensil wedi'i dorri â laser.

Mae Stewy  wedi paentio ei ddelweddau o Price a Wollstonecraft gan ddefnyddio chwistrell ar waliau yn Adeilad John Percival y Brifysgol. Mae'r ffigurau  ysbrydoledig hyn bellach i’w gweld wrth fynedfeydd yr ystafelloedd dysgu a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer seminarau athroniaeth.

Mae'r portread o Price hefyd wedi ymddangos yn Newington Green, gyferbyn â'r tŷ lle roedd yn byw pan oedd yn weinidog yn y Tŷ Cwrdd.

Dyma a ddywedodd y Pennaeth Athroniaeth, yr Athro Jonathan Webber:

“Mae portread Stewy o Wollstonecraft wedi mynd yn adnabyddus iawn. Rwy'n credu mai hwn yw'r unig ddarn o gelf stryd yng Nghasgliad Celf Llywodraeth y DU. Rydyn ni’n hynod o falch o gael y paentiadau hyn ar ein waliau, a’n gobaith yw y rhagor o waith Price ar ffurf stensil yn helpu i ailennyn diddordeb yn ei fywyd a'i waith”.

Bu farw Richard Price yn Llundain ym 1791 ac yn 2023 mae’n 300 mlynedd ers ei eni.

Mae'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ar hyn o bryd. Mae disgyblaethau’r Ysgol wedi cael eu  haddysgu yn y Brifysgol ers iddi gael ei chreu am y tro cyntaf ym 1883 pan oedd yn Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy.

Rhannu’r stori hon