Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad o £9m i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

7 Rhagfyr 2022

Mae £9m dros bum mlynedd wedi’i ddyfarnu i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), Prifysgol Caerdydd, i’w galluogi i barhau â'i hymchwil.

O ganlyniad i’r cyllid bydd academyddion yn y Ganolfan yn gallu parhau i ddarparu tystiolaeth annibynnol i lunwyr polisïau ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ynghylch ystod o faterion – gan eu helpu i wella'r broses o lunio a chyflwyno polisïau.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae'r WCPP wedi cyhoeddi dros 200 o adroddiadau a sesiynau briffio ynghylch polisïau, yn ymwneud â heriau allweddol ym maes polisïau, gan gynnwys adfer yn sgîl pandemig COVID-19, mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau, trosglwyddo i Sero-Net, cefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.

Ariennir y Ganolfan gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Wedi'i leoli yn Sbarc, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, mae'n aelod o Ganolfan What Works yn y DU ac yn gweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd i helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Meddai'r Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr WCPP: "Mae'r buddsoddiad newydd hwn yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn arwydd pwerus o'r gwerth mae'r ESRC a Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ein gwaith yn sicrhau bod llunwyr polisïau yn gallu defnyddio ymchwil ac arbenigedd blaengar.

“Bydd y pum mlynedd nesaf yn gyfnod hollbwysig o ran gwasanaethau cyhoeddus, wrth i ni symud allan o’r pandemig a thrwy gyfnod economaidd heriol. Mae ein hacademyddion yn barod i ddarparu’r dystiolaeth hanfodol honno, fel y gall llunwyr polisïau ddatblygu penderfyniadau cytbwys i wella bywydau pobl Cymru.”

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.