Effaith ragorol ar bolisi yng Nghymru
22 Gorffennaf 2019
![Group of people on stage](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1538060/Group-shot-of-WCPP-Team-at-awards.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn canmoliaeth gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy ei chynllun gwobrwyo blynyddol, Dathlu Effaith.
Roedd y Ganolfan yn un o ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori Effaith Polisi Cyhoeddus Ragorol mewn seremoni yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 9 Gorffennaf 2019. Mae’r Wobr yn cydnabod y ffordd y mae gwaith y Ganolfan yn galluogi Gweinidogion i gyrchu a defnyddio tystiolaeth annibynnol er mwyn llywio penderfyniadau polisi. Y Ganolfan oedd yr unig sefydliad o Gymru a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ac fe’i dewiswyd o blith nifer fawr o geisiadau cystadleuol.
Mae’r wobr o fri, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu timau a ariennir gan ESRC sydd wedi cyflawni effaith economaidd neu gymdeithasol ragorol. Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis yn ôl proses drylwyr a gynhelir gan academyddion uwch, arbenigwyr ar ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil. Arweiniwyd y digwyddiad gan Yr Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC, a thraddodwyd y brif araith gan Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/555189/Mark-Drakeford-AM.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cryfhau yn sylweddol y modd y lluniwn bolisi yng Nghymru. Mae’n rhoi inni dystiolaeth annibynnol o safon uchel sy’n herio ein rhagdybiau cyfredol a gwella ein penderfyniadau.”
![Brochure on table](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1538109/Celebrating-impact-awards-brochure.jpg?w=575&ar=16:9)
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Steve Martin: “Rydym wrth ein boddau, yn wir, fod ESRC wedi dathlu’r effaith yr ydym wedi llwyddo i’w chael...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1750667/610490-1579613855910.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Roeddem yn falch iawn i allu arddangos y gwaith sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru, ac mae’r wobr dystiolaeth o ba mor uchel yw ansawdd y gwaith y mae ein tîm yn ei gynhyrchu a’r ffordd y mae Gweinidogion Cymru wedi agor y broses lunio polisïau i’r dystiolaeth orau sydd ar gael.”
Dywedodd yr Athro Jennifer Rubin: “Mae pob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi dangos effaith eu gwaith a’i berthnasedd a’i bwysigrwydd i’r gymdeithas. Maent eisoes yn cyfrannu at ddadleuon polisi yn eu meysydd arbenigol, a gobeithio y bydd eu dylanwad yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor (Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o arwyddocâd y gwaith y mae’r Ganolfan yn ei gyflawni i sicrhau bod penderfyniadau polisi cenedlaethol sy’n effeithio arnom wedi eu gwreiddio mewn tystiolaeth a gaffaeliwyd a’i dehongli gan arbenigwyr yn atgoffâd o’r rôl allweddol y mae’r tîm ymchwil hwn, a Phrifysgol Caerdydd, yn ei chwarae ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Llongyfarchiadau gwresog i’r Ganolfan.”
Dywedodd Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r effaith mae’n ei chael...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1344452/Rachel-Ashworth-Avatar.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Mae’r Ganolfan yn llunio polisi cyhoeddus ac yn llywio penderfyniadau er mwyn cyflawni gwell canlyniadau at gyfer pobl Cymru.”
“Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn longyfarch Steve a’r tîm yn ddiffuant ar y cyflawniad anhygoel hwn. Edrychaf ymlaen at weld y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.”