Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn pryderu am iechyd genetig dyfrgwn yn y DU

15 Tachwedd 2022

Otter with fish

Gallai iechyd genetig dyfrgwn ym Mhrydain fod yn eu rhoi mewn perygl er gwaethaf ymdrechion cadwraeth, yn ôl astudiaeth hirdymor gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

Gan astudio data dros gyfnod o ddau ddegawd, mae’r tîm wedi mynd ati am y tro cyntaf i fapio sut mae geneteg dyfrgwn wedi newid.

Er bod niferoedd poblogaeth dyfrgwn wedi cynyddu ar draws y DU yn dilyn dirywiad yng nghanol yr 20fed ganrif, nid yw’r adferiad genetig wedi digwydd ar un gyfradd.

Wrth i'r poblogaethau dyfu ac wrth i grwpiau oedd yn arfer bod wedi’u hynysu ailgysylltu, roedd disgwyl y byddai’r amrywiaeth genetig ymhlith y mamaliaid fod wedi cynyddu.

Fodd bynnag, er bod symudiad rhwng cynefinoedd dyfrgwn, mae’r ymchwil newydd yn dangos bod diffyg amrywiaeth genetig ym mhoblogaeth y DU. Mae hyn yn golygu eu bod yn agored i afiechyd a allai beryglu ymdrechion cadwraeth.

Dywedodd Dr Nia Thomas, prif awdur yr astudiaeth, sy’n gweithio yn Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol: “Ers cryn amser, mae dyfrgwn wedi cael eu hystyried yn enghraifft o lwyddiant o ran cadwraeth yn y DU. Fodd bynnag, mae ein hastudiaeth yn pwysleisio na ddylem orffwys ar ein rhwyfau o ran adferiad dyfrgwn, gan fod y canlyniadau genetig yn adrodd stori wahanol. Nid yw dyfrgwn ledled y DU wedi ailgysylltu eto ar y lefel enetig.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn deall pam mae hyn wedi digwydd a pha gyfyngiadau a allai fod yn effeithio ar sut maent yn cymysgu’n enetig. Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall a fydd yr oedi hwn mewn amrywiaeth genetig ymhlith y boblogaeth dyfrgwn yn gwella.”

Mae arolygon diweddar fel Arolwg Cenedlaethol Dyfrgwn Cymru wedi dangos gostyngiadau mewn poblogaethau dyfrgwn.

Dywedodd Dr Elizabeth Chadwick, arweinydd y Prosiect Dyfrgwn ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-awdur: “Dylai hyn fod yn peri pryder i bawb – nid yn unig y mae dyfrgwn yn un o hoff famaliaid Prydain, maen nhw hefyd yn rhoi rhybudd am gyflwr y systemau dŵr croyw rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

“Mae ein canfyddiadau yn creu darlun sy’n peri pryder ac yn amlygu agwedd ar adferiad yn y boblogaeth nad yw’n cael ei gwerthfawrogi’n ddigonol.

“Mae hefyd yn dangos sut mae data genetig yn rhan annatod o fonitro cadwraeth, er mwyn gallu gwerthuso bregusrwydd posibl poblogaethau.”

Mae’r Prosiect Dyfrgwn ym Mhrifysgol Caerdydd yn gynllun ymchwil gwyliadwriaeth amgylcheddol hirdymor. Mae’r ymchwil yn dibynnu ar y cyhoedd neu awdurdodau i roi gwybod am ddyfrgwn sydd wedi’u darganfod yn farw er mwyn ymchwilio i halogion, clefydau, a bioleg poblogaeth dyfrgwn ledled y DU.

Mae'r astudiaeth, Monitro genetig ledled y wlad dros 21 mlynedd yn datgelu oedi mewn adferiad genetig er gwaethaf cysylltedd gofodol mewn poblogaeth cigysydd sy'n ehangu (dyfrgwn Ewrasiaidd, Lutra lutra), yn cael ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Ceisiadau Esblygiadol.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil