Ewch i’r prif gynnwys

Lansio gwasanaeth cyngor mewnfudo rhad ac am ddim i helpu Wcreiniaid sy'n byw yng Nghymru

11 Tachwedd 2022

Two hands holding a Ukraine passport

Bydd Wcreiniaid yng Nghymru yn gallu defnyddio cynllun cyngor mewnfudo am ddim dan arweiniad academydd o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r cyfreithiwr mewnfudo a lloches Jennifer Morgan, sy'n ddarlithydd ar y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y Brifysgol, wedi sefydlu Prosiect Wcráin Cymru mewn partneriaeth â Chyfiawnder Lloches (Asylum Justice), ar y cyd â chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl y bydd yr ymholiadau'n eang eu natur ac yn cynnwys gwaith ar draws ystod eang o gategorïau cyfraith mewnfudo a lloches gan gynnwys llwybrau gwaith, myfyrwyr a’r teulu yn ogystal â chynlluniau mewnfudo penodol y Swyddfa Gartref.

Mae tua 25 o fyfyrwyr y gyfraith wedi cael eu recriwtio ar y cynllun, ac yn y lle cyntaf bydd y tîm yn rhoi cyngor i unrhyw Wcreiniad mewn angen yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd Jennifer, sydd wedi bod yn gweithio yn y maes ers 20 mlynedd bron iawn: "Mae llawer o Wcreiniaid wedi dod i'r DU neu wedi gallu aros yma ers dechrau'r rhyfel oherwydd nifer o gynlluniau a gafodd eu sefydlu mewn ymateb i'r argyfwng. Ond wrth i'r cymorth sy’n gysylltiedig â rhai o'r cynlluniau hyn ddod i ben, bellach mae angen cyngor ar lawer nifer o Wcreiniaid ar yr hyn sy'n digwydd nesaf.

"Oherwydd y statws maen nhw wedi'i gael, ni chydnabyddir Wcreiniaid yn ffurfiol yn ffoaduriaid a dydyn nhw ddim yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol gwladol. Felly, rwy'n disgwyl ein bod yn mynd i gael llawer o ymholiadau gan deuluoedd y mae angen cymorth arnyn nhw i lywio eu ffordd drwy ein system fewnfudo gymhleth."

Mae Prosiect Wcráin Cymru yn un o nifer o gynlluniau pro bono gan academyddion yn Ysgol y Gyfraith. Mae’r rhain yn rhoi profiad uniongyrchol o waith achos i fyfyrwyr tra'n rhoi gwasanaeth hollbwysig i'r rheini y mae ei angen arnyn nhw.

Cyn mynd yn ddarlithydd, bu Jennifer yn gweithio yn y sectorau elusennau a chymorth cyfreithiol gan gynnwys gweithio i elusennau cenedlaethol megis Canolfan Cyngor ar Bopeth a'r Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo. Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn aelod o Rwydwaith Menywod mewn Cyfraith Ffoaduriaid (WiRL).

Ychwanegodd: "Ni ellir gorbwysleisio brys y gwaith hwn. Dim ond megis dechrau ar eu taith y mae Wcreiniaid sydd wedi dod i Gymru ac mae'n hollbwysig bod y cymorth priodol ar gael i'r rheini y mae ei angen arnyn nhw."

Dyma a ddywedodd Katherine Carter, myfyrwraig ail flwyddyn yn y Gyfraith: "Bydd ffoaduriaid yn ffoi o’u gwledydd cartref heb lawer o eiddo neu fawr ddim ohono ac yn cyrraedd gwledydd tramor gan wybod fawr ddim am eu cartref newydd. Yn sgîl Prosiect Wcráin Cymru, ein gwaith yw eu helpu i deimlo bod croeso iddyn nhw yn ogystal ag estyn cymorth iddyn nhw wrth iddyn nhw greu eu bywydau o’r newydd."

Dyma a ddywedodd Dr Bernadette Rainey, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Cyfiawnder Lloches: "Yn sgîl cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Gwasanaethau Noddfa Cymru, mae Cyfiawnder Lloches yn falch o allu cynnal Prosiect Wcráin Cymru a’r Uned Pro Bono yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd, sydd wedi ennill nifer o wobrau, fydd yn ei gynnal.

"Cyfiawnder Lloches yw'r unig elusen yng Nghymru sy'n rhoi'r ystod lawn o gyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim i ffoaduriaid ac ymfudwyr bregus ac mae'r bartneriaeth â'r Uned Pro Bono yn caniatáu i Gyfiawnder Lloches fynd ati i gynyddu ei gapasiti, gan gefnogi prosiect pwrpasol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cyngor cyfreithiol penodol Wcreiniaid yng Nghymru."

Dylai Wcrainiaid sydd eisiau defnyddio’r gwasanaeth gysylltu â: s.mcgarrity@asylumjustice.org.uk

Rhannu’r stori hon

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.