Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi prifysgolion Wcráin

12 Gorffennaf 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn gefeillio â Phrifysgol Genedlaethol Zaporizhzhya Polytechnig, Wcráin i gefnogi staff a myfyrwyr sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro presennol.

Mae'r cydweithio'n rhan o fenter ledled y DU sy'n golygu bod sefydliadau o bob cwr ohoni yn cynnig pecyn cymorth i brifysgolion, myfyrwyr a staff Wcráin – sy’n cynnwys:

  • Cymorth i ailadeiladu campysau prifysgolion Wcráin wedi iddynt gael eu difrodi a'u dinistrio.
  • Cydnabod credydau fel y gall myfyrwyr Wcráin sy’n siarad Saesneg ddilyn cyrsiau ar-lein, sy'n cyfrif tuag at eu gradd derfynol, o brifysgolion y DU.
  • Caniatáu i addysgu ac ymchwil prifysgolion Wcráin barhau mewn labordai ac ystafelloedd dosbarth yn y DU o ganlyniad i’r ffaith bod eu cyfleusterau eu hunain wedi’u dinistrio neu eu difrodi.
  • Hwyluso rhannu adnoddau academaidd megis llyfrgelloedd ac offer technegol.
  • Cadw archifau o Wcráin yn sefydliadau'r DU; hwyluso rhagor o gyfleoedd cyfnewid diwylliannol a chyfleodd cyfnewid iaith.
  • Rhannu cymorth iechyd meddwl – yn enwedig i staff a myfyrwyr o Wcráin sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn sgîl y gwrthdaro.
  • Caniatáu i fyfyrwyr Wcráin 'ddal i fyny' ar y dysgu y maent wedi'i golli, trwy gyfrwng ysgolion haf a gynhelir mewn sefydliadau yn y DU.

Nod y cynllun, sydd wedi'i gydlynu gan Grŵp Ymgynghori Cormack gyda chefnogaeth Universities UK International, yw helpu i atal 'draen yr ymennydd' a sicrhau bod prifysgolion Wcráin nid yn unig yn goroesi ond yn parhau’n gryfach fyth er gwaetha’r rhyfel, gan ganiatáu iddynt chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ailadeiladu ar ôl y rhyfel.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn llwyr gondemnio ymosodiadau trychinebus Rwsia yn Wcráin ac yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

"Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth efeillio hon nid yn unig yn rhoi cymorth hanfodol i staff a myfyrwyr Wcráin, gan eu galluogi i barhau â'u dysgu a'u hymchwil, ond y bydd hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer cydweithio cyfoethog, hirdymor rhyngom."

Mae gan y Brifysgol hefyd gysylltiad arall yn ei le drwy'r Ysgol Feddygaeth a Phrifysgol Feddygol Zaporizhia. Mae tri chyfarfod rhithwir wedi bod, a hynny o dan awenau’r Cormack Consultancy Group.

Sefydliad aml-gyfadrannol yw Prifysgol Feddygol Zaporizhia ac mae opsiynau i roi cymorth ar draws grwpiau proffesiynol clinigol gwahanol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Steve Riley, Deon Addysg Feddygol a Phennaeth yr Ysgol Meddygaeth: “Rydyn ni ond yn y camau cynnar megis ond rydyn ni wedi cytuno i hwyluso lleoliadau clinigol ar gyfer nifer fach o fyfyrwyr meddygol o Wcráin yn ystod yr haf.

“Rydyn ni wedi cael cymorth ardderchog gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac ar hyn o bryd rydyn ni wrthi’n trefnu’r rhaglen gyfnewid hon. Ar y cyd â’r cydweithwyr yn Zaporizhia, rydyn ni’n ystyried pa gymorth y gellir ei roi gan gynnwys cefnogaeth i’r staff cyfadrannol, darparu deunydd addysgu ar-lein a gallu cyrchu adnoddau llyfrgell o bell. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at berthynas ffrwythlon a chefnogol.”

Rhannu’r stori hon