Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Wcráin Cymru

Two hands holding a Ukraine passport

Cynllun cyngor mewnfudo rhad ac am ddim yw Prosiect Wcráin Cymru i unigolion a theuluoedd yng Nghymru sydd wedi ffoi o’u cartrefi oherwydd y rhyfel yn Wcráin.

Mae’r cynllun yn cael ei gynnig mewn partneriaeth â Chyfiawnder Lloches (Asylum Justice), sef gwasanaeth cyfreithiol annibynnol i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ar y cyd â chyllid Llywodraeth Cymru ac mae’n agored i bobl o Wcráin sy’n dymuno dod i mewn i Gymru neu aros yng Nghymru.

Sefydlwyd y cynllun gan y gyfreithwraig a’r darlithydd ym maes mewnfudo a lloches Jennifer Morgan. Mae ganddi brofiad helaeth o achosion mewnfudo yn dilyn y gwrthdaro yn Syria, Affganistan ac Irac ymhlith gwledydd eraill. Nod y prosiect yw rhoi cyngor unwaith ac am byth i gleientiaid a fydd wedyn yn mynd â'u hachosion eu hunain gerbron y llysoedd.

"Mae llawer o Wcreiniaid wedi dod i'r DU neu wedi gallu aros yma ers dechrau'r rhyfel oherwydd nifer o gynlluniau a gafodd eu creu mewn ymateb i'r argyfwng.

Ond wrth i'r cymorth sy’n gysylltiedig â rhai o'r cynlluniau hyn ddod i ben, bellach mae angen cyngor ar lawer o Wcreiniaid ar yr hyn sy'n digwydd nesaf.

Oherwydd y statws maen nhw wedi'i gael, ni chydnabyddir Wcreiniaid yn ffurfiol yn ffoaduriaid a dydyn nhw ddim yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol gwladol. Rydyn ni yma i helpu teuluoedd ac unigolion y mae angen cymorth arnyn nhw i lywio ein system fewnfudo gymhleth.” - Jennifer Morgan, Arweinydd y Prosiect.

Rydyn ni yma i helpu teuluoedd ac unigolion y mae angen cymorth arnyn nhw i lywio ein system fewnfudo gymhleth.
Jennifer Morgan Arweinydd y prosiect, Prosiect Wcráin Cymru

Recriwtiwyd tua 25 o fyfyrwyr y gyfraith i weithio ar y cynllun a fydd yn ymwneud ag ystod eang o ymholiadau sy’n ymwneud â mewnfudo a chyfraith a pholisïau’r DU ar loches a chenedligrwydd.

Dod o hyd i gyngor

Os ydych chi’n dod o Wcráin ac mae angen cymorth ar faterion cyfreithiol arnoch chi ers ichi gyrraedd Cymru, cysylltwch â Gweinyddwr y Prosiect Suzy McGarrity.

Tîm y prosiect

Arweinydd y prosiect

Gweinyddwr y prosiect

Suzy McGarrity

Asylum Justice logo
Welsh Government logo
Ukraine Project Cymru logo