Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil newydd yn tynnu sylw at newidiadau sydd eu hangen ar gyfer cadwraeth eliffantod Asiaidd

18 Hydref 2022

Asian elephants

Canfu'r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o symudiad eliffantod Asiaidd a dewis cynefinoedd hyd yma fod yn well gan eliffantod gynefinoedd ar ffiniau ardaloedd gwarchodedig, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â phobl

Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr, gan gynnwys Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang Caerdydd, wedi darganfod bod y mwyafrif o eliffantod Asiaidd yn treulio mwy na hanner eu hamser y tu allan i ardaloedd gwarchodedig, gan ffafrio coedwigoedd ac ardaloedd o aildyfiant sydd wedi’u haflonyddu ychydig.

Fodd bynnag, roedd ardaloedd gwarchodedig yn dal i chwarae rhan bwysig, gyda dewis mwyaf yr eliffantod ar gyfer ardaloedd o fewn tri chilometr o ffiniau ardaloedd gwarchodedig.

Mae rhanbarth Sundaic, lle digwyddodd yr ymchwil, yn boethfan byd-eang ar gyfer bioamrywiaeth. Fodd bynnag, amcangyfrifir mai dim ond 50% o goedwig wreiddiol y rhanbarth sy'n parhau a llai o 10% ohono sy'n cael ei ddiogelu'n ffurfiol. Mae eliffantod Asiaidd mewn perygl ac yn byw mewn tirweddau darniog iawn yn y rhanbarth hwn.

Oherwydd helaethder ystodau cartref eliffantod Asiaidd, gallant yn aml gyrraedd tirweddau sydd wedi'u dominyddu gan bobl, sy'n anochel yn arwain at wrthdaro â phobl.

Mae'r awduron yn dweud yn glir nad yw eu canfyddiadau'n lleihau pwysigrwydd ardaloedd gwarchodedig - conglfaen o strategaethau cadwraeth byd-eang.

Yn seiliedig ar eu canfyddiadau, mae'r awduron yn gwneud tri argymhelliad allweddol ar gyfer cadwraeth eliffantod Asiaidd:

  1. Cynnwys ardaloedd mawr, gwarchodedig gydag ardaloedd craidd lle gall eliffantod ddod o hyd i ddiogelwch;
  2. Ymgorffori coridorau ecolegol i gysylltu rhwydweithiau o ardaloedd gwarchodedig;
  3. Lliniaru yn erbyn gwrthdaro rhwng eliffantod â phobl, yn enwedig o gwmpas ardaloedd gwarchodedig, gyda phwyslais ar ddiogelu diogelwch a bywoliaeth pobl, yn ogystal â hyrwyddo goddefgarwch tuag at bresenoldeb eliffantod.

Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y British Ecological Society's Journal of Applied Ecology, dadansoddodd yr ymchwilwyr symudiadau 102 o eliffantod Asiaidd, gan gofnodi dros 60,000 o leoliadau GPS ar draws penrhyn Malay a Borneo. Lluniwyd y data o dros ddegawd o waith maes gan dri grŵp ymchwil.

Yna, cymharodd yr ymchwilwyr y data hwn â lleoliadau ardaloedd a warchodwyd yn ffurfiol i weld faint o amser yr oedd eliffantod yn ei dreulio yn yr ardaloedd hyn a'r ardaloedd o'u cwmpas.

Credir bod dewis yr eliffantod ar gyfer coedwig sy'n cael ei tharfu yn gysylltiedig ag arferion bwyd. Maen nhw'n hoffi bwyta glaswellt, bambŵ, palmwydd a choed sy'n tyfu'n gyflym, sy'n gyffredin mewn amgylcheddau sy'n cael eu tarfu, ond yn gymharol brin o dan ganopi coedwigoedd hen dyfiant.

Gall ardaloedd gwarchodedig amrywio'n ddramatig yn lefel yr amddiffyniad y maen nhw'n ei dderbyn. Yn yr astudiaeth hon, roedd yr awduron ond yn cynnwys ardaloedd gwarchodedig a restrir yng Nghronfa Ddata'r Byd o Ardaloedd Gwarchodedig yn eu dadansoddiad. Nid oeddent yn cynnwys coedwigoedd gwarchodedig sy'n cael eu hecsbloetio a’u defnyddio ar gyfer logio.