Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Biowyddorau yn ennill canlyniadau rhagorol yn FfRhY 2021

12 Mai 2022

O fewn y DU, fe’n dynodwyd y 7fed am effaith ymchwil a’r 8fed am bŵer ymchwil yn y Gwyddorau Biolegol

Yng nghanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY - REF) 2021 a gyhoeddwyd heddiw, cadarnhawyd fod 88% o weithgarwch ymchwil yn y Gwyddorau Biolegol yng Nghaerdydd o safon a gydnabyddir naill ai gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Daw’r dyfarniad hwn yn sgil yr asesiad annibynnol diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU.

Amlyga’r 8fed safle yn y DU o ran pŵer ymchwil gryfder ac ansawdd ein cyflwyniad FfRhY.

Adlewyrcha’r ffaith bod ein heffaith ymchwil wedi ei gydnabod yn 7fed yn y DU y rôl hanfodol y mae ein hymchwilwyr yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â heriau mwyaf y byd. Mae enghreifftiau o hyn yn amredeg o amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl i reoli ecosystemau dŵr croyw iach a datblygu a gwella dulliau canfod, monitro a thrin HIV, ffliw a SARS-CoV-2.

"Rydym yn falch o’n cyflwyniad FfRhY cwbl gynhwysol, ein hamgylchedd cefnogol a’n diwylliant o ragoriaeth ymchwil sydd wedi gwreiddio’n ddwfn ac â ategir gan ein safle fel yr 8fed yn y DU am bŵer ymchwil."Mae ein hymchwil yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf y byd, ac mae ei effaith pellgyrhaeddol ac amrywiol yn cael ei gydnabod ymhellach gan ein safle effaith ymchwil, yn 7fed yn y DU ac yn 3ydd yng Ngrŵp Russell o sefydliadau ymchwil-ddwys.  Mae hyn yn dilyn ein llwyddiant llynedd fel y 4ydd yn y DU a’r 27ain yn y byd yn y Gwyddorau Biolegol yn Safle Byd-eang Pynciau Academaidd."
Yr Athro Jim Murray Professor / Research Division Leader (Molecular Biosciences)

Nod Ysgol y Biowyddorau yw meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol.  Yn dystiolaeth o hyn, cyflwynwyd 100% o'n staff cymwys i'w hasesu.

Dysgwch fwy am y gwahaniaeth y mae ein hymchwil yn ei wneud.

Rhannu’r stori hon

Mwy o wybodaeth am ein cyflwyniadau a gweld y canlyniadau.