Ewch i’r prif gynnwys

Perfformiad rhagorol yn REF 2021

12 Mai 2022

DENTL student in clinic

Mae gan ddiwylliant ymchwil ffyniannus ac arloesol yr Ysgol Deintyddiaeth un nod cyffredinol: cynhyrchu ymchwil o safon uchel sy'n cael effaith sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang allweddol sy'n ymwneud ag iechyd y geg ac iechyd cyffredinol.

Heddiw, cafodd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 eu cyhoeddi. Y REF yw proses adolygu arbenigol y pedwar corff ariannu addysg uwch yn y DU. Cafodd ymchwil Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ei hasesu’n rhan o Uned Asesu 3 y REF (sy’n cwmpasu proffesiynau perthynol i iechyd, deintyddiaeth, nyrsio a fferylliaeth).

Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.

Barnwyd bod 91% o allbwn UoA yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, a rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl (4.0) ar gyfer yr amgylchedd ymchwil.

Drwy sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.39, cafodd ymchwil ryngddisgyblaethol yr UoA ei rhoi yn y 16eg safle (allan o 90) ar gyfer ansawdd. Mae hynny, ynghyd â maint yr ymchwil yn yr Uned hon, yn ein rhoi yn y 4ydd safle (allan o 90) ar gyfer Pŵer Ymchwil (sy’n arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad).

Roedd gan yr Athro Daniel Aeschlimann, cyn Gyfarwyddwr Ymchwil, ac arweinydd prosiect y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y canlynol i'w ddweud:

“Roeddwn yn falch iawn o glywed bod REF2021 wedi cadarnhau gallu Caerdydd i ddarparu ymchwil o'r radd flaenaf ar raddfa eang. Mae'r amgylchedd rhyngddisgyblaethol bywiog ynghyd â staff ymroddgar ar draws disgyblaethau ein Huned wedi meithrin arloesedd, a adlewyrchir mewn datblygiadau allweddol ar draws sbectrwm eang o weithgarwch, o ddarganfod cyffuriau, i dreialon gwerthuso ymyriadau iechyd newydd, a datblygu polisi sy'n effeithio ar iechyd y genedl a thu hwnt.

Mae'n braf gweld ein bod nid yn unig yn cael ein cadarnhau fel chwaraewr pwysig o ran Pŵer Ymchwil, ond ein bod wedi cynyddu'n sylweddol gyfran yr allbynnau ymchwil ar y lefel uchaf o ansawdd wrth gyflwyno 100% o staff cymwys i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn gadarnhad o'n cyfeiriad strategol. Diolchaf yn ddiffuant i'r holl gydweithwyr a wnaeth y cyflwyniad cryf hwn yn realiti, ond yn bennaf oll, i'r staff sydd, dros gylch y REF, wedi gyrru'r ymchwil pwysig a wnaed gan ein Huned yn ei flaen, ac yn parhau i wneud hynny.“

Mae ymchwil yr Ysgol Deintyddiaeth yn rhan bwysig o Uned Asesu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (UoA), sy'n cynnwys màs critigol o ymchwilwyr o bum ysgol ar draws Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Mae enghreifftiau o’u hymchwil o safon fyd-eang yn cynnwys:

Dau heddweision

Lleihau troseddau treisgar

Rydym yn lleihau troseddau treisgar ledled y DU a thu hwnt drwy gasglu gwybodaeth gan adrannau meddygol a chyfiawnder troseddol at ei gilydd.

Child at the dentist

Atal pydredd dannedd ymhlith plant

Mae ein hymchwil ar atal pydredd dannedd mewn plant yn sail i ddull Llywodraeth Cymru o wella iechyd y geg.

Beer being poured

Newid agweddau tuag at alcohol

Mae tri ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith ymchwil i sut mae defnyddio a chamddefnyddio alcohol yn effeithio ar ein cymdeithas, a beth y gellir ei wneud i annog arferion yfed mwy diogel.

Rhannu’r stori hon