Ewch i’r prif gynnwys

Enwebiadau ar gyfer gwobrau newyddiaduraeth

21 Mawrth 2022

Wales Media Awards logo
Nifer o raddedigion diweddar a chynfyfyrwyr eraill yn cael eu henwebu yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2022.

Mae deg o gynfyfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi cael eu henwebu yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru eleni.

Mae'r enwebeion, sy'n rhychwantu cyfnod o bedair blynedd ar bymtheg yn ysgol newyddiaduraeth hynaf y DU, gyda'i gilydd yn rhannu un ar bymtheg o enwebiadau gan gynnwys Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn a Newyddiadurwr Radio’r Flwyddyn.

Mae Nest Jenkins, y cynfyfyriwr mwyaf diweddar o’r Ysgol ar y rhestr, wedi’i henwebu gyfer gwobr Ed Townsend i Fyfyriwr Newyddiaduraeth Gorau’r Flwyddyn. Mae Will Hayward, a enillodd radd Newyddiaduraeth, yn cael ei enwebu mewn pedwar categori gan gynnwys Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn ac Awdur Erthyglau’r Flwyddyn.

Dywedodd Will Hayward: "Mae'n teimlo'n swreal fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer pedair gwobr - yn enwedig gan mai ymdrech tîm yw newyddiaduraeth yn y pen draw ac rwy'n gweithio gyda grŵp anhygoel o newyddiadurwyr yn WalesOnline.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn ystod y pandemig ac rydyn ni i gyd yn teimlo cyfrifoldeb go iawn wrth adrodd ar faterion mor bwysig sy'n effeithio ar fywydau pobl."

Bydd y Gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni tei ddu fawreddog ar 25 Mawrth 2022. Lucy Owen, cyflwynydd BBC Cymru Wales a Jonathan Hill o ITV Cymru Wales fydd cyflwynwyr y seremoni.

Y digwyddiad hwn yw’r prif godwr arian ar gyfer Elusen y Newyddiadurwyr yng Nghymru. Mae’r elusen hon yn cefnogi newyddiadurwyr sy’n gweithio, a’r rhai sydd wedi ymddeol, y mae angen cyngor brys arnynt ynghylch grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Matt Walsh, “Rydym yn falch iawn o weld cynifer o'n cynfyfyrwyr yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru eleni.

“Unwaith eto, mae argyfwng COVID-19 wedi amlygu’r cyfrifoldeb unigryw sydd gan newyddiaduraeth i gynnig newyddion dibynadwy nad yw wedi’i effeithio gan ymyrraeth wleidyddol.

“Mae'r ffaith fod cynifer o'n graddedigion wedi llwyddo i ffynnu yn ystod yr heriau hyn yn dyst i'w proffesiynoldeb a sut mae eu hyfforddiant achrededig wedi rhoi'r sgiliau iddynt i allu cynhyrchu newyddiaduraeth o'r safon uchaf. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Dyma’r enwebeion o Brifysgol Caerdydd eleni: Nest Jenkins, Ffion Lewis, Laura Clements, Will Hayward, Geraint Thomas, Beth Edwards, Rob Osborne, Andy Davies, Hannah Thomas and Chris Wathan.