Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan o dîm gohebu’r BBC ar gyfer COP26

15 Tachwedd 2021

Chloe Blissett and Nel Richards

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi paratoi straeon gwreiddiol am newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn rhan o sylw’r BBC ar COP26.

Cafodd Nel Richards a Chloe Blissett, y ddwy ohonynt o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, eu dewis o fwy na 500 o ymgeiswyr i fod yn rhan o’r tîm sy’n rhoi sylw i 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Yn rhan o’r gystadleuaeth, gofynnwyd i unigolion rhwng 18 a 24 oed amlinellu syniad ar gyfer stori drwy gyflwyno fideo dwy funud o hyd neu adroddiad 500 o eiriau. O’r holl ymgeiswyr, cafodd 22 ohonynt eu dewis i fod yn ohebwyr ifanc gyda’r darlledwr.

Gwnaeth Chloe, myfyrwraig 23 oed o Reading sy’n astudio ar gyfer gradd meistr mewn Newyddiaduraeth, gyflwyno syniad ar gyfer stori a oedd yn canolbwyntio ar y gydberthynas rhwng newid yn yr hinsawdd a thirlithriadau lle ceir pyllau glo yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn erthygl ar-lein, cafodd y stori sylw hefyd ar y teledu a’r radio.

Dywedodd Chloe: “Roeddwn yn awyddus i dynnu sylw pobl at bwnc nad oes llawer iawn o drafod wedi bod arno’n flaenorol. Roeddwn am gynnwys lleisiau’r bobl sy’n byw’n agos at y pyllau glo hyn ac ymchwilio i’r rhesymau pam mae risg uwch o dirlithriadau."

“Mae cael y cyfle i sôn am fater pwysig sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn ystod COP26, digwyddiad hollbwysig i’r blaned, wedi bod yn fraint enfawr. Mae’n hanfodol bod newyddiaduraeth yn llywio ac yn hyrwyddo trafodaeth ymhlith pobl o bob oedran. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli wrth drafod materion mor bwysig, er mwyn i newidiadau go iawn a chadarnhaol allu digwydd.”

Chloe Blissett

Mae Nel Richards yn 20 oed o Abertawe’n wreiddiol. Mae’n astudio ar gyfer ei gradd gyntaf yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth. Mae stori lwyddiannus Nel yn tynnu sylw at y broblem o leoliad wrth adeiladu seilwaith ynni gwyrdd ac yn canolbwyntio ar ei hardal leol, sef Craig Cefn Parc. Yn ogystal â bod ar BBC Cymru Fyw, cafodd y cyfle hefyd i ddiweddaru’r ffrwd newyddion ar wefan y BBC yn fyw.

Dywedodd Nel: "Dwi wedi bod mor ffodus o alli cyd weithio gyda'r BBC i greu deunydd am yr hinsawdd, ac i siarad gyda gwahanol bobl am sut mae newid hinsawdd wedi effeithio ar eu bywyd nhw. Nid yn unig yw hi wedi bod yn agoriad llygaid i weld sut mae mynd ati i guradu straeon, ond i weld sut a pha mor bwysig y mae straeon yr hinsawdd yn effeitho ar bobl."

"Mae hi wedi bod yn fraint i allu cyd-weithio gydag ymgyrchwyr yn COP26 ac wrth gwrs, gyda newyddiadurwyr uchel eu parch, sydd yn gwneud y swydd bwysig o ddarparu'r straeon yr ydym yn eu darllen ac yn gweld o ddydd i ddydd."

Nel Richards

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y cyfrif @iamcardiffuni ar Twitter.