Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â chanolfan polisi masnach gynhwysol gwerth £10m

29 Tachwedd 2021

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â chanolfan gyntaf y DU ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol i fasnach ryngwladol pan fydd yn agor yn gynnar yn 2022.

Mae'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol yn un o chwe chanolfan genedlaethol newydd sy’n ceisio mynd i'r afael â materion cymdeithasol ac economaidd brys drwy gynnig tystiolaeth ymchwil gadarn i helpu’r Llywodraeth i wneud penderfyniadau.

A hithau wedi'i chyllido gan grant o £8m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chymorth ychwanegol gan y prifysgolion sy'n cyfrannu at ei gwaith, mae'r Ganolfan yn dod ag arbenigwyr o bedair gwlad y DU ynghyd i wneud ymchwil arloesol i bolisi masnach.

Dywedodd Dr Ludivine Petetin o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Nod y Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol yw bod yn lleoliad lle mae ymchwil arbenigol ac arloesol yn cael ei gwneud a lle mae polisïau’n cael eu llunio.

“Bydd sylw allweddol yn cael ei roi i gynwysoldeb yn rhanbarthol ac yn sefydliadol ar draws pedair gwlad y DU ac ar draws disgyblaethau a lleisiau mewn cymdeithas, gan gynnwys ar reithgorau dinasyddion, mewn llywodraethau a chwmnïau a rhwng unigolion a chenedlaethau, er mwyn cyfrannu at ymchwil arloesol yn rhyngwladol sy’n cael effaith.”

A hithau wedi gadael yr UE, mae'r DU wrthi'n llunio ei pholisi masnach ei hun, a fydd yn llywio canlyniadau economaidd a lles am genedlaethau i ddod. Mae masnach ryngwladol yn newid yn gyflym ac yn dod yn fwy cymhleth oherwydd heriau mawr sy’n deillio o COVID-19, rhyfeloedd masnachol, technolegau tarfu digidol a newid yn yr hinsawdd.

Dan arweiniad Prifysgol Nottingham ac Ysgol Busnes Prifysgol Sussex, mae'r prosiect ymchwil yn cynnwys ysgolheigion ym meysydd economeg, y gyfraith, rheoli busnes, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Queen’s Belfast, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Strathclyde a phrifysgolion dramor.

Yn ogystal â'r prifysgolion hyn, bydd y Ganolfan hefyd yn gweithio gyda naw partner sy’n cynnwys Ernst & Young, Fieldfisher, Grŵp Masnach Ryngwladol y Cyngor Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes, Siambrau Masnach Prydain, y Mudiad Cyfiawnder Masnach a swyddogion masnach ym mhob un o bedair gweinyddiaeth y DU.

Er mwyn helpu i feithrin gallu hirdymor i ddatblygu a dadansoddi polisi masnach, bydd y Ganolfan hefyd yn cynnal cystadleuaeth am gyllid ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa.

Dywedodd yr Athro Dan Wincott, Athro Blackwell y Gyfraith a Chymdeithas yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Bydd y Ganolfan yn cryfhau’r arbenigedd academaidd mewn polisi masnach ac yn meithrin cysylltiadau â chymunedau polisi a phroffesiynol.

“Mae'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol wedi’i chreu â datganoli mewn golwg. Mae'n gyfle cyffrous i weithio gyda chydweithwyr ledled y DU a'r byd ehangach, gan gynnwys cysylltu'r gwaith hwn â thrafodaeth gyhoeddus a gwaith datblygu polisi yng Nghymru.”