Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr israddedig arobryn i berfformio gyda Cherddorfa Symffoni Swydd Gaerloyw

11 Tachwedd 2021

A picture of Darcy resting on her marimba

Mae Darcy Beck, myfyriwr israddedig ail flwyddyn yn yr  Ysgol Cerddoriaeth, yn paratoi i berfformio gyda Cherddorfa Symffoni Swydd Gaerloyw ar ôl ennill Gwobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn Swydd Gaerloyw 2020.

Yn sgil ennill y wobr am ei cherddoriaeth taro ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl blwyddyn o oedi oherwydd y pandemig, caiff Darcy y cyfle o'r diwedd i berfformio ei chyngerdd enillydd 2020 yn Neuadd y Dref Cheltenham ar 21 Tachwedd.

Bydd Darcy yn perfformio Concerto i'r Marimba a Llinynnau gan Emmanuel Séjourné, darn datblygedig sy'n galw am farimba â phum wythawd, a defnyddio pedwar morthwyl drwyddi draw.

Wrth siarad am ei dewis, dywedodd Darcy: "Rwy'n credu mai dyma un o'r darnau mwyaf cyffrous i gael ei ysgrifennu i'r marimba erioed. Does dim technegau estynedig crand ynddo, ond mae'n dangos hyblygrwydd yr offeryn yn eithriadol o dda. Mae'n defnyddio ystod lawn yr offeryn ac yn cynnwys nodweddion cyffredin gweithiau i'r marimba fel rholiau mewn pianissimo ysgafn a gosodiadau ffortissimo dwys. Fy hoff agwedd ar y concerto yw ei fod yn rhyfeddol o felodaidd."

Er mwyn sicrhau'r perfformiad hwn ac ennill y wobr, bu'n rhaid i Darcy fynd drwy sawl cam trylwyr gan ddechrau drwy gyflwyno dau ddarn clyweliad marimba (wedi'u ffilmio gartref gan fod yr offeryn yn anodd iawn ei gludo). Yn dilyn hyn cafwyd clyweliad wyneb yn wyneb yn Academi Cerddoriaeth Swydd Gaerloyw lle cafodd ei dewis yn un o'r pump yn y rownd derfynol.   Yma, perfformiodd Battercada, y darn buddugol, gan chwarae'n ddramatig yn y tywyllwch gyda ffyn gwyrdd oedd yn goleuo.

See Darcy's performance here:

Wrth feddwl am ei lwyddiant, bu Darcy'n trafod sut mae'r cyfleoedd a gynigiwyd iddi ym Mhrifysgol Caerdydd wedi helpu i ddatblygu ei doniau a'i hyder fel cerddor a'i pharatoi at gyfer y perfformiad arfaethedig:

"Rwy'n credu bod cael bod yn fyfyriwr Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwella fy hyder fel chwaraewr yn sylweddol. Fi oedd yr unig un ag offeryn taro yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Roedd rhaid i mi chwarae'n hyderus ac ymddiried yn fy ngreddfau cerddorol fy hun, gan nad oedd gen i neb arall i ddibynnu arnyn nhw. Cefais gyfle i chwarae mewn sawl ensemble jazz lle'r oedd byrfyfyrio yn elfen allweddol. Roedd yn eithaf brawychus ar y dechrau gan nad oedd yn rhywbeth oeddwn i wedi gwneud llawer ohono o'r blaen. Unwaith i mi oresgyn y rhwystr cychwynnol o fyrfyfyrio o flaen yr ensemblau am y tro cyntaf roeddwn i'n hapus i roi cynnig arni unrhyw bryd. Mae hyn wedi helpu gyda fy hyder fel chwaraewr yn gyffredinol, ac nid mewn jazz yn unig."

Er gwaethaf dechrau yn yr Ysgol Cerddoriaeth ar ganol y pandemig, dangosodd Darcy ymroddiad i'w hastudiaethau offerynnol ac awydd cryf i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i fyfyrwyr. Buan iawn y daeth yn rhan o nifer o ensemblau’r Ysgol ac mae'n wych gweld ei dawn a'i hymroddiad yn cael eu gwobrwyo gyda'r cyfle hwn i berfformio concerto unigol gyda cherddorfa broffesiynol.

Dr Keith Chapin Senior Lecturer

Rhannu’r stori hon