Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn goron ar flwyddyn “swreal” i fyfyriwr sy’n awdur

25 Hydref 2021

Female student wearing Urdd Crown

Mae myfyriwr Cymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd wedi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21, ar ôl gorfod aros am 18 mis.

Dyfernir coron yr Urdd am y darn neu’r darnau gorau o lenyddiaeth sydd dros 4,000 o eiriau.

Fe gyflwynodd yr awdur Megan Angharad Hunter o Benygroes, Gwynedd ei chais yn 2020 cyn i'r ŵyl ieuenctid genedlaethol gael ei gohirio oherwydd Covid-19.

Yn ogystal â chyhoeddi buddugoliaeth Megan, bydd Eisteddfod yr Urdd yn datgelu enillwyr y Medalau Drama a Chyfansoddwyr ar draws wythnos o ddathliadau ar lwyfannau digidol yr Urdd ar raglen ddyddiol Heno, yn ogystal ag ar BBC Radio Cymru.

Yn ogystal â’i llwyddiant yn yr Urdd, mae Megan hefyd wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf, Tu ôl i'r awyr.

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gwbl swreal,” meddai Megan, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

“O gyhoeddi Tu ôl i'r awyr ym mis Tachwedd 2020, ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda'r nofel honno, a nawr cael fy nghoroni gan yr Urdd!Rydw i mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth – rydyn ni mor lwcus yma yng Nghymru fod gennym ni’r cyfleoedd yma i arbrofi ac i ddatblygu ein sgiliau ni fel awduron.”

Megan Angharad Hunter Myfyriwr Cymraeg ac Athroniaeth

Yn ôl y beirniaid Siân Northey a Casia Wiliam, nid oedd "unrhyw amheuaeth" rhyngddynt mai Megan, a gystadlodd o dan y ffugenw Lina, fyddai’n cipio'r Goron.

Dywedon nhw: “Mae'n gymaint o ryddhad pan mae’r ddau feirniad yn gytûn ynglŷn â phwy yw'r enillydd. Mae gwaith Lina yn ddarn uchelgeisiol sy’n mynd â ni ymhell i'r dyfodol. Mae gan yr awdur feistrolaeth dros iaith sy’n ei galluogi i ddefnyddio arddull academaidd ar gyfer un darn, a llythyrau wedi'u hysgrifennu gan blentyn ar gyfer y gweddill. Bydd y cymeriadau'n aros yn y cof am amser hir. Llongyfarchiadau i Lina, sy'n llawn haeddu Coron yr Urdd.”

Urdd Crown 2021-22 on mannequin head

Mae Megan yn derbyn Coron a ddyluniwyd ac a grëwyd gan y cerflunydd Mared Davies, a benderfynodd ddehongli'r pandemig yn ei dyluniad.

Dywedodd: “Sut i gyfleu aflonyddwch Covid-19 mewn coron? Drwy wneud yr hyn rwy'n ei wneud orau, sef cyfuno'r deunyddiau meddal, lliwgar â deunyddiau caled, tywyllach – tecstilau â metelau. Er bod y goron yn cynrychioli amser caled yn ein bywydau, yn weledol mae'n apelio at y llygad drwy gyfuniad o droellau, gweadau a lliw...”

“Nid yw coron yn rhywbeth rydyn ni'n ei wisgo bob dydd, felly roedd yn bwysig iawn i mi greu coron fwy cerfluniol gyda'r defnydd o ffrâm yr wyneb. Ni allwn ychwaith beidio â chreu mwgwd ar y wyneb gan fod y mwgwd, wrth gwrs, wedi dod yn un o'r pethau pwysicaf yn ein bywydau sy'n galluogi ein 'normalrwydd' newydd.”

Mared Davies Cerflunydd

Bydd y rhai a ddaeth i’r brig yng nghystadlaethau Coron, Cadair a Medal Ddrama yr Eisteddfod yn cael lleoedd am ddim ar gwrs yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o dan arweiniad awdur neu fardd proffesiynol.

Am y tro cyntaf erioed, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi casgliad o'r llenyddiaeth buddugol, o dan y teitl 'Deffro'. Wedi'i guradu gan ddau enillydd blaenorol: y golygydd creadigol Brennig Davies a'r darlunydd Efa Lois a gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru, bydd copïau print a digidol ar gael i'w prynu o ddydd Gwener 22 Hydref 2021.

Rhannu’r stori hon

Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.