Ewch i’r prif gynnwys

Trin a thrafod gwrth-hiliaeth mewn cyfres newydd o sgyrsiau

25 Hydref 2021

Nova Reid credit Ro Photographs
Speaker, activist and author Nova Reid. © Ro Photographs

Bydd y llefarydd, yr ymgyrchydd a'r awdur Nova Reid yn ymuno â'r academydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Matthew Williams, yn y gyntaf o gyfres o sgyrsiau sy’n trafod gwrth-hiliaeth.

Bydd Trafod Gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr ar draws y Brifysgol ynghyd â siaradwyr gwadd arbenigol i gychwyn trafodaethau pwysig ar hil. Bydd pob ysgol academaidd yn cymryd ei thro i gynnal sgwrs, a bydd arbenigwyr y Brifysgol a’r siaradwyr allanol yn trafod amrywiaeth o'u safbwyntiau unigryw eu hunain.

Un o brif ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth y DU yw Nova Reid. A hithau’n siaradwraig TED, yn entrepreneur, yn bodledwraig ac yn awdur, mae ganddi hefyd gefndir ym maes lles meddyliol. Mae Nova yn defnyddio pob un o’r sgiliau amhrisiadwy hyn yn ei hymarfer gwrth-hiliaeth ac mae'n eiriolwr angerddol dros degwch hiliol.

Dyma ddywedodd Nova Reid, awdur The Good Ally, llyfr sy'n hyrwyddo ac yn annog newidiadau ystyrlon: "Rwy’n awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau ystyrlon sy'n ysgogi syniadau, yn herio, yn dyfnhau dealltwriaeth ac yn ysbrydoli camau. Felly, pleser o’r mwyaf yw cael fy ngwahodd i ymuno â Phrifysgol Caerdydd a thrafod gyda'r Athro Matthew Williams.

"Mae gwaith Matthew wedi bod yn hollbwysig wrth helpu i edrych â chrib mân ar yr hyn sy’n achosi ymddygiad dynol o ran hiliaeth a chasineb. Rhaid bod yn ddewr i fod yn wrth-hiliol, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau ar y gwaith."

Mae'r Athro Troseddeg Matthew Williams, sy’n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn arbenigo mewn ymchwil i droseddau casineb a’r ffaith bod pob math o gasineb yn dechrau symud i'r Rhyngrwyd. Mae'n cyfarwyddo’r Labordy Gwrth-Gasineb, rhaglen ymchwil sy'n hyb byd-eang ar gyfer data a dealltwriaeth er mwyn monitro a gwrthsefyll iaith a throseddau casineb ar-lein.

Meddai'r Athro Williams, awdur The Science of Hate: Mae gwaith ysbrydoledig Nova o ran gwrth-hiliaeth yn cael ei ysgogi gan genhadaeth i wella cyfiawnder hiliol, drwy ein helpu i ddatgelu’r rhagfarnau sy’n rhan o bob un ohonon ni, a hynny er mwyn eu dad-ddysgu. Rwy'n falch iawn bod Nova yn barod i rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad gyda ni fel rhan o'r gyfres Trafod Gwrth-hiliaeth."

Dyma a ddywedodd Michelle Alexis, Dirprwy Reolwr Busnes Ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi trefnu'r gyfres: "Rwy'n hynod o falch bod hon yn gyfres hirdymor ac yn gyfle gwych i'r llu o ysgolion ar draws y Brifysgol drafod gwrth-hiliaeth yn eu disgyblaethau gwahanol.

"Dylai'r digwyddiadau, sy'n agored i bawb, roi’r cyfle inni wrando ar safbwyntiau diddorol ac amrywiol ar y pwnc pwysig hwn, a gobeithio y bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o amrywiaeth a pham ei bod yn fater mor bwysig y mae angen camau ar y cyd ar ei gyfer."

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd yn cynnal y gyfres hon o sgyrsiau sy'n ceisio ymchwilio i'r hyn y mae angen i gymdeithas ei wneud i hyrwyddo gwrth-hiliaeth ym mhob agwedd ar fywyd.

"Rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau'n llywio ac yn sbarduno'r trafodaethau pwysig y mae eu hangen o ran hil ac amrywiaeth yn ogystal â dangos ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ymgorffori cydraddoldeb, ymwybyddiaeth a’r broses o newid ym mhob agwedd ar ein gwaith."

Gweminar Zoom ar-lein fydd y digwyddiad ddydd Mawrth 26 Hydref am 11am a bydd yn cael ei recordio i'w gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

I gadw eich lle ar y sgwrs, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.