Ewch i’r prif gynnwys

Galw am ragor o ffocws ar amrywiaeth yn y cyfryngau

6 Gorffennaf 2021

Dr David Dunkley Gyimah
Dr David Dunkley Gyimah

Mae ffigurau blaenllaw o fyd ffilm, teledu a'r cyfryngau ym Mhrydain gan gynnwys Syr Lenny Henry, Amma Asante, Adrian Lester, Afua Hirsch a Gary Younge ymhlith y cyfranwyr yn y rhifyn diweddaraf o gyfnodolyn sy'n ymroddedig i hyrwyddo amrywiaeth yn y cyfryngau.

Maen nhw’n ymuno ag academyddion ar gyfer ail rifyn 'Representology - the Journal for Media and Diversity', sy'n astudio’r ffordd y bydd y cyfryngau a diwylliant ehangach yn y DU yn ymdrin â phwnc cynrychiolaeth.

Mae'r cyhoeddiad, gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Dinas Birmingham, ar gael heddiw (dydd Mawrth 6 Gorffennaf), ac mae’n cynnwys rhestr o erthyglau gan bobl enwog yn ogystal ag ymchwil academaidd fanwl sy’n taflu goleuni ar y diwydiant.

Mae’r awduron wedi ysgrifennu 13 erthygl sy'n ymdrin ag ystod o bynciau. Maen nhw’n cynnwys:

  • Syr Lenny Henry yn cyfweld â'r wneuthurwraig ffilmiau Amma Asante ynghylch sut i amrywiaethu mewn dramâu cyfnod yn ogystal â rhannu grym ym myd ffilmiau;
  • Y newyddiadurwraig Afua Hirsch ar ei chyfnod yn gweithio yn The Voice, prif bapur newydd pobl Ddu’r DU;
  • Cyn-newyddiadurwr y Guardian Gary Younge ar fod yn Ddu a gweithio i’r papur newydd;
  • Yr actor Adrian Lester ar gydbwyso’r gwaith o fagu plant â gyrfa yn y celfyddydau creadigol;
  • Ymchwil unigryw gan Chi Thai a Delphine Lievens sy’n tynnu sylw at absenoldeb talent Prydeinwyr o gefndir dwyrain a de-ddwyrain Asia yn sinema Prydain
  • Darnau gan yr awdur a'r gweithiwr ieuenctid Ciaran Thapar am gof diwylliannol pobl ddu, ymladd gwahaniaethu ar y radio a’r teledu ynghyd ag argymhellion diwylliannol

Dyma a ddywedodd golygydd Representology a’r beirniad diwylliannol K Biswas, y mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn y New Statesman, y New York Times, ac The Nation: “Rwy’n falch iawn o lansio ail rifyn Representology: The Journal of Media and Diversity, ac o ddwyn ynghyd brif enwau byd gwasg a darlledu Prydain yn ogystal â newydd-ddyfodiaid nodedig ac ymchwilwyr academaidd blaengar.

“Mae pob cyfrannwr yn deall pa mor bwysig yw dal profiadau amrywiol y sawl sy'n gweithio yn y cyfryngau, a hynny er mwyn cael gwared ar y rhwystrau presennol rhag cymryd rhan.”

Dyma a ddywedodd Dr David Dunkley Gyimah, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Mae safon ac amrywiaeth yr erthyglau yn yr ail rifyn hwn o’r cyfnodolyn yn codi cynifer o gwestiynau diddorol ac mae’n nhw’n plymio’n ddwfn i’r profiadau y mae pobl wedi eu cael o ran cynhwysiant. Mae'r ail rifyn hwn yn dangos safbwynt Representology yn glir; mae'n hen bryd bod cyhoeddiad o'r fath ar gael.”

Dywedodd yr Athro Diane Kemp, o Brifysgol Dinas Birmingham: “Mae'r cyfnodolyn hwn yn estyniad naturiol o'r gwaith sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Amrywiaeth y Cyfryngau Syr Lenny Henry ac mae'n dwyn ynghyd arbenigedd a chyfraniadau o bob rhan o'r diwydiant a'r byd academaidd.

“Gyda chyfranwyr mor enwog yn rhoi eu profiadau personol, yn ogystal ag ymchwil y mae mawr ei hangen sy’n tynnu sylw at faterion pwysig, ein gobaith yw y bydd gan Representology ran bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod ein diwydiant yn adlewyrchu'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi.”

Sefydlwyd Representology yn dilyn trafodaethau rhwng Canolfan Amrywiaeth y Cyfryngau Syr Lenny Henry Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Caerdydd, a'r uchelgais ar y cyd yw ymgymryd â gwaith ymchwil newydd i faes cynrychiolaeth yn y cyfryngau a chynnwys erthyglau gan unigolion blaenllaw yn y frwydr am well cynrychiolaeth.

Mae'n mynd i'r afael â phynciau sy'n cwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig gan gynnwys hil, rhywedd, rhywioldeb, dosbarth ac anabledd, yn ogystal â'r croestoriadau rhyngddyn nhw.

Rhannu’r stori hon