Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwr ar lywodraethu i arwain y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru

20 Hydref 2021

Professor Laura McAllister outside café

Bydd Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru o Brifysgol Caerdydd yn cyd-gadeirio Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru.

Mae'r Athro Laura McAllister yn ymuno â chyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, i ymchwilio i berthynas y genedl â gweddill y DU, gan gynnwys annibyniaeth i Gymru.

Bydd y cyd-Gadeiryddion yn helpu’r Comisiwn i argymell sut y gall setliad cyfansoddiadol Cymru wella canlyniadau i bobl Cymru a chynnwys y cyhoedd mewn sgwrs genedlaethol orau.

Ac yntau wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru, bydd y Comisiwn annibynnol yn datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU, y mae Cymru’n dal i fod yn rhan annatod ohonynt. Bydd hefyd yn ystyried pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae gwir angen cyfrannu o ddifrif at y ddadl gyfansoddiadol, ac rwy’n falch iawn y bydd ein gwaith yn helpu i lenwi’r bwlch hwnnw...”

“Byddwn yn meddwl yn eofn ac yn radical am yr holl opsiynau posibl ar gyfer dyfodol Cymru, yng nghyd-destun y pwysau cynyddol ar yr Undeb.”

Yr Athro Laura McAllister Professor of Public Policy
Professor Laura McAllister and Dr Rowan Williams sat outside café

Ychwanegodd Dr Williams, a gafodd ei wneud yn un o Gymrodorion Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd yn 2002: “Gwaith y Comisiwn hwn yw gofyn pa strwythurau a darpariaethau cyfansoddiadol fydd yn gwireddu potensial cymunedau a phobl Cymru orau...”

“Rydym am sicrhau bod Cymru’n cael ei llywodraethu mewn ffordd effeithiol, atebol a llawn dychymyg, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed pa obeithion a gweledigaethau sy'n ysbrydoli pobl ledled y wlad.”

Dr Rowan Williams Cyn Archesgob Caergaint a Cymrodorion Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd

Roedd sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru’n ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Am fod y cyd-Gadeiryddion wedi’u penodi, bydd gweddill yr aelodau'n cael eu cadarnhau fis nesaf. Disgwylir i gyfarfod cyntaf y Comisiwn gael ei gynnal ym mis Tachwedd, hefyd.

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.