Ewch i’r prif gynnwys

Data rhanbarthol yn hanfodol er mwyn i Gymru adfer yn economaidd ac yn gymdeithasol yn dilyn y pandemig

28 Gorffennaf 2021

Cardiff City Centre

Bydd dadansoddiadau yn sgîl data economaidd rhanbarthol a sectoraidd newydd yn arwain adferiad Cymru yn dilyn COVID-19. Mae hyn o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR).

Bydd ymchwilwyr yn cymhwyso gallu modelu a rhagweld NIESR, a gydnabyddir yn rhyngwladol, i economi Cymru am y tro cyntaf, yn rhan o fenter i ddatblygu gwell dealltwriaeth o economïau rhanbarthol y DU.

Y bwriad hefyd yw cyhoeddi adroddiad chwarterol, a fydd yn canolbwyntio'n benodol ar economi Cymru, o hydref 2021 ymlaen, gan roi gwell dealltwriaeth i academyddion a llunwyr polisïau o'r heriau o'n blaenau.

Yn sgîl y pandemig, bu ymdrechion o'r newydd i ganolbwyntio ar ranbarthau'r DU, yn enwedig yn y cenhedloedd datganoledig, wrth i lywodraethau lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon roi polisïau a chanllawiau ar waith.

Dyma ddywedodd yr Athro Huw Dixon, Pennaeth Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd ac a gafodd ei benodi yn ddiweddar yn Arweinydd Ymchwil Mesur yr Economi yn NIESR: “Ni allai’r amseru fod yn well i NIESR estyn allan o San Steffan i ranbarthau’r DU drwy weithio mewn partneriaeth â ni yma yng Nghaerdydd. Mae'n golygu y bydd yr heriau unigryw sy'n wynebu Cymru yn rhan annatod o'u gwaith ar economi'r DU.

“Y safbwynt rhanbarthol, manwl ond cynnil hwn sydd wedi bod yn hanfodol i ddeall effeithiau cymdeithasol ac economaidd COVID-19. O ganlyniad i'n partneriaeth mae'n safbwynt y byddwn yn ei gadw wrth inni ragweld y bydd adferiad yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."

Ychwanegodd yr Athro Jagjit Chadha OBE, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Mae gwersi’r ychydig o flynyddoedd diwethaf wedi ein haddysgu bod gwell dealltwriaeth o’n heconomïau rhanbarthol a datganoledig yn hanfodol. Mae'r darlun macroeconomaidd ar y lefel uchaf yn aml yn cuddio cryn nifer o wahaniaethau rhanbarthol a dylai dadansoddiad mwy gronynnog ein galluogi i wneud asesiadau mwy manwl-gywir o'r rheidrwydd o ran polisïau.

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i greu gwell darlun o’r economi, ac yn benodol felly sut i ddatblygu ymwybyddiaeth ddyfnach o economi Cymru a sut mae hyn yn berthnasol i naratif polisïau economaidd a chymdeithasol ar y lefel genedlaethol.”

Wrth edrych y tu hwnt i'r pandemig, mae'r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, o'r farn y bydd y bartneriaeth yn galluogi Prifysgol Caerdydd a NIESR i ddehongli a rhagweld llwyddiannau polisïau cymdeithasol ac economaidd unigryw Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Incwm Sylfaenol Cyffredinol, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. ac Economi’r Cyflog Byw sy'n prysur dyfu.

Dywedodd: “Bydd data NIESR yn ein helpu i daflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru ond bydd hefyd yn rhoi’r llwyfan inni arddangos a phroffilio rhai o’r polisïau unigryw a gychwynnwyd yn economi Cymru ar draws y DU.

“Mae’r mathau hyn o bolisïau yn cyfuno amcanion a dyheadau economaidd a chymdeithasol i sicrhau gwerth i ddinasyddion Cymru a’r DU ar draws cyflogaeth, gofal iechyd, addysg yn ogystal â sectorau eraill.”

Bydd y bartneriaeth hefyd o fudd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd drwy gynnig cyfleoedd am leoliadau gwaith ym mhencadlys NIESR yng nghanol San Steffan i'r rheiny sy'n astudio graddau israddedig yn ogystal ag ysgoloriaethau PhD ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig.

Mae cymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, digwyddiadau ar y cyd a chydleoli yn sbarc ǀ SPARK - sef, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol newydd Prifysgol Caerdydd - hefyd ar y gweill wrth i'r bartneriaeth ddatblygu.

Dyma ddywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Yn sgîl ein partneriaeth â NIESR, bydd sefydliad ymchwil economaidd annibynnol hynaf Prydain yn gallu gwella ei chyrhaeddiad a’i enw da fel sefydliad cenedlaethol. Bydd hefyd yn cyfoethogi arbenigedd y gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd ymhellach ar adeg pan mae dirfawr angen mapio heriau a chyfleoedd unigryw economi Cymru a diwyg polisïau datganoledig at y dyfodol, ac wrth inni gydleoli ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn y gwyddorau cymdeithasol yn sbarc ǀ SPARK, sef parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.”

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.