Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan dreftadaeth newydd yn arddangos 6,000 o flynyddoedd o hanes Gorllewin Caerdydd

29 Medi 2021

Mae prosiect cymunedol sydd wedi helpu pobl i gysylltu â hanes cyfoethog eu hardal leol yn dathlu atyniad cymunedol ac ymwelwyr newydd gwerth £650,000 sydd newydd ei gwblhau.

Canolfan Dreftadaeth Gymunedol y Fryngaer Gudd yw penllanw rhaglen 10 mlynedd o gynlluniau cymunedol. Mae wedi’i harwain gan Brosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER), sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol a phartneriaid treftadaeth.

Roedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn bresennol ar gyfer yr agoriad yn rhinwedd ei rôl fel Aelod Senedd Cymru ar ran Gorllewin Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddangos yr adeilad newydd o'r radd flaenaf a'r ardd gyfagos, a chafwyd teithiau tywys drwy gydol y dydd o dan arweiniad gwirfoddolwyr. Rhoddwyd profiad VR hefyd, a chafodd darganfyddiadau archeolegol eu harddangos.

Mae maes chwarrae newydd i blant, sy'n seiliedig ar thema gynhanesyddo, ar agor i deuluoedd erbyn hyn. Cafodd y maes chwarae hwn ei ariannu gam Wales and West Housing a Chyngor Caerdydd.

Mae bryngaer Caerau yn safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol. Mae ganddi wreiddiau Neolithig, Oes yr Haearn, Rhufeinig a chanoloesol ac eto, nid yw’n cael ei gwerthfawrogi ac mae’n anhysbys i raddau helaeth.

Cyfranogiad lleol, cyd-greu a chyfranogiad cymunedol

Bydd y ganolfan, sy’n gyn-neuadd yr efengyl ar Church Road, yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod hanes 6,000 mlynedd oed Caerau a Threlái – dwy gymuned fywiog yng Nghaerdydd sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol.

Mae wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a bydd yn cynnig lle i wirfoddolwyr, trigolion lleol, disgyblion ysgol ac ymwelwyr archwilio a dathlu Bryngaer Caerau ochr yn ochr â gweithwyr treftadaeth proffesiynol, artistiaid, academyddion a myfyrwyr prifysgol.

Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn cynllunio llwybrau treftadaeth, gosodiadau celf, gwybodaeth ac arwyddion o amgylch yr heneb, gerddi â thema treftadaeth, oergell gymunedol a phrosiectau bwyd treftadaeth i fynd i'r afael â heriau lleol sy’n cynnwys tlodi bwyd.

Y math hwn o gydweithio a chyd-greu cymunedol sydd wastad wedi bod wrth wraidd prosiect Treftadaeth CAER, ac mae'r Cyd-gyfarwyddwr Dr Oliver Davis yn gobeithio y bydd y Ganolfan yn gatalydd i gael mwy o bobl i gymryd rhan.

Dyma ddywedodd Dr Davis, sydd hefyd yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Penllanw deng mlynedd o waith gan filoedd o bobl yw'r ganolfan ymwelwyr, llawer ohonyn nhw’n blant ysgol, yn wirfoddolwyr ac yn drigolion yr ardal leol.

"Yn ystod y cyfnod hwnnw rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd i greu arolygon geoffisegol, arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, cyrsiau dysgwyr sy'n oedolion, gosodiadau celf, ysgrifennu creadigol, perfformiadau dawns, gorymdeithiau â baneri, prosiectau hanes, ffilmiau a llwybrau treftadaeth.

"Rydyn ni eisiau cynnwys yr un bobl yn ein trafodaethau am y ganolfan hefyd, fel y gallwn ni sicrhau ei bod yn rhoi’r gwasanaeth gorau iddyn nhw a'u cymunedau yn y dyfodol."

Ychwanegodd Dave Horton, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: "Rydym yn adeiladu ar flynyddoedd o ymchwil yr ydym wedi'i chynnal gyda phobl leol drwy brosiect Treftadaeth CAER ar y safle hanesyddol anhygoel hwn.

"A’r syniad y tu ôl i Ganolfan yw iddi roi'r lle hwn ar y map a rhoi porth i'r heneb er mwyn i bobl leol yn bennaf gael mynediad ati, ei deall a'i chofleidio fel rhan bwysig o'u cymuned a'u hanes.

"Ond rydyn ni am ei rhedeg fel canolfan gymunedol hefyd. Felly, rydym am iddi fod yn ofod y gall pobl leol ei ddefnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau a phrosiectau sydd o fudd i'w cymuned. Ar ben hynny. rydym am iddi fod yn rhywle lle maen nhw’n gallu datblygu eu sgiliau, eu hegni a'u brwdfrydedd i allu cyflwyno’r newidiadau maen nhw am eu gweld yn yr ardal leol."

Chwalu'r rhwystrau i addysg uwch

Mae Treftadaeth CAER yn cynnig cyfleoedd addysgol newydd i bobl o bob oed gan gynnwys cynlluniau ysgoloriaethau a datblygu sgiliau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae tîm y prosiect yn gobeithio y bydd y Ganolfan newydd yn dod yn ganolbwynt er mwyn chwalu ymhellach y rhwystrau i addysg uwch i wirfoddolwyr lleol fel Doug, 60, sy'n byw yng Nghaerau, a ymunodd â'r prosiect ar ôl damwain car difrifol.

Dyma’r hyn a ddywedodd: "Cawson ni ddamwain ac roeddwn i'n cael llawer o freuddwydion gwael a doeddwn i ddim eisiau mynd allan. Roeddwn i'n parhau i feddwl am yr hyn fyddai wedi digwydd pe bai’r ddamwain wedi bod ychydig fodfeddi yn nes ata i. Dwi dal ddim yn hoffi gyrru heibio'r fan lle ddigwyddodd y ddamwain."

Ac yntau’n ofalwr amser llawn i'w wraig, barn Doug oedd bod y prosiect wedi ei helpu i adael y tŷ unwaith eto ac i gerdded yn y coetiroedd cyfagos.

"Ar ôl imi ddechrau wneud hyn am dipyn, dechreuais i fagu ychydig bach mwy o ddiddordeb. Mae'n lle braf i ddod i weithio ac mae'n fy nghadw'n heini hefyd gan y bydda i’n heicio i fyny yma. Rwy'n hoffi mynd allan i'r goedwig a helpu i'w thacluso. Mae bod yn rhan o'r prosiect mawr hwn yn wych. Mae awyrgylch da yma ac yn y bôn mae cymuned yma," meddai.

Roedd cymryd rhan yn y prosiect hefyd yn ail-danio cariad Doug at hanes, a hyn oedd wedi'i arwain at raglen llwybr Archwilio'r Gorffennol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Byddwn i’n treulio’r rhan fwyaf o'm hamser yn yr ysgol yn eistedd yn y cefn heb wneud dim, felly mae cychwyn ar y llwybr i gwrs gradd wedi bod yn newid mawr imi. Rwy'n amau a fyddwn i wedi cyrraedd y pwynt hwn ar fy mhen fy hun," meddai.

Wrth i'r ganolfan ymwelwyr a'r llwybrau treftadaeth agor, mae Doug eisiau i’r goedwig gael ei datblygu, a hynny er mwyn creu swyddi yn y gymuned leol.

"Hoffwn sefydlu iard goed fel y byddai wedi bod adeg y Rhufeiniaid i wneud pethau syml megis ffensys. Rydych chi’n eu gwehyddu gan ddefnyddio canghennau, felly yn y bôn byddai'n rhywle a fyddai'n cynhyrchu’r rhain ac yn eu defnyddio ar y safle. Byddai'n cyd-fynd â thema a naws gyffredinol y lle," esboniodd Doug.

Dewch i wybod rhagor am Brosiect Treftadaeth CAER.

Rhannu’r stori hon