Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi dau lwybr newydd

21 Medi 2021

New pathways

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnwys dau faes pwnc newydd i'w hystod gynyddol o lwybrau.

O hydref 2021 ymlaen gall myfyrwyr ymrestru ar y Llwybr i Optometreg sy'n darparu llwybr i radd israddedig mewn optometreg gyda blwyddyn ragarweiniol.

Bydd y cyfle hefyd i astudio tuag at Ddiploma mewn Hylendid Deintyddol.

Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) fydd yn cydlynu  ein llwybrau ac maen nhw wedi’u llunio i fod yn hyblyg.

Mae’r llwybrau yn rhan-amser a bydd y dysgu'n digwydd gyda'r nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd ag  ymrwymiadau gwaith a theulu.  Bydd y myfyrwyr yn astudio mewn cyd-destunau cadarnhaol, yn gwella eu sgiliau astudio ac yn derbyn cymorth o ran eu cais i’r brifysgol.  Mae cyngor ar gyllid ar gael hefyd.

Daw’r cyhoeddiad cyffrous hwn ar ben-blwydd lansio ein Llwybr cyntaf yn 10 oed, sef llwybr i radd mewn hanes, archeoleg a chrefydd. Yn ystod y degawd diwethaf rydyn ni wedi ychwanegu 11 maes pwnc arall ac mae’r rhain yn rhoi llwybr i astudiaethau gradd i'r rheiny sydd wedi bod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth am nifer o flynyddoedd.

Dr Sara Jones sy'n cydlynu'r llwybrau a dyma’r hyn a ddywedodd: “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r Ysgol Optometreg a'r Ysgol Deintyddiaeth yn bartneriaid sy'n darparu dau lwybr newydd i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd.  Nid yw pawb yn barod i ddechrau Addysg Uwch yn 18 oed ond rydyn ni’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lwybr clir a hygyrch pan fydd yr amser yn iawn iddyn nhw. ”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu anfonwch ebost i pathways@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon