Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at ddiploma mewn Hylendid Deintyddol

Dental Pathway

O ganlyniad i alw digynsail, mae’r holl leoedd ar y Llwybr wedi’u llenwi erbyn hyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, ac nid ydym yn derbyn rhagor o geisiadau.

Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Hylendid Deintyddol ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio.

Addysgir y modiwlau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol.

Ar ôl astudio ar y Llwybr, byddwch yn cael gwneud cais i astudio ar gyfer y diploma mewn Hylendid Deintyddol (B750) neu radd mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (B752).

Sut mae’n gweithio

Mae’r Llwybr yn cynnwys 60 o gredydau.

Mae angen i ymgeiswyr fod â phum cymhwyster TGAU gyda graddau A i C neu 9 i 4. Rhaid i Saesneg Iaith/Cymraeg fod yn un o’r rhain.

Modiwlau’r Llwybr

Modiwlau craidd

Modiwlau Dewisol

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau’r Llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.

Cost

Rhagor am gyllid ac arian.

Cysylltu

Os oes gennych chi ymholiadau neu os hoffech chi wybod rhagor am y Llwybr hwn, ebostiwch pathways@caerdydd.ac.uk

Os nad oes gennych y cymwysterau gofynnol, dywedwch wrthym pa gymwysterau sydd gennych.

Bydd aelod o dîm y Llwybrau yn ymateb i’ch ebost cyn gynted â phosibl.

Llwybrau at radd