Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr MA mewn Gwaith Cymdeithasol yn ymuno â bwrdd golygyddol cyfnodolyn gwaith cymdeithasol blaenllaw

13 Awst 2021

British Journal of Social Work

Penodwyd y Cyfarwyddwr Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol, Abyd Quinn Aziz, i fwrdd golygyddol The British Journal of Social Work (BJSW).

BJSW yw prif gyfnodolyn gwaith cymdeithasol y DU ac mae ganddo gyrhaeddiad rhyngwladol. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar waith cymdeithasol, gyda phapurau'n adrodd ar ymchwil, yn trafod ymarfer, ac yn trin a thrafod egwyddorion a damcaniaethau, gan adlewyrchu safbwyntiau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae'n cael ei ddarllen gan addysgwyr gwaith cymdeithasol, ymchwilwyr, ymarferwyr a rheolwyr sy'n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau damcaniaethol ac empirig yn y maes.

Mae Abyd Quinn Aziz yn ymuno â Dr Alyson Rees o dîm MA Gwaith Cymdeithasol ar y bwrdd golygyddol. Mae ganddo 42 mlynedd o brofiad yn y maes, gan gynnwys profiad mewn ymarfer gofal cymdeithasol, cadeirio cynadleddau amddiffyn plant, cynadledda grŵp teuluol a sawl blwyddyn fel Cyfarwyddwr Rhaglen ein rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol.

Mae BJSW yn helpu i lywio, annog dadl ac yn cefnogi llunio polisïau ym mhob maes o waith cymdeithasol.  Fe'i cyhoeddir 8 gwaith y flwyddyn ac mae opsiwn llwybr cyflym ar gael i ymateb i erthyglau sy'n sensitif o ran amseriad.

dywedodd Abyd am ei benodiad i'r bwrdd: “Defnyddir y cyfnodolyn gan academyddion ac ymchwilwyr ac fe’i argymhellir i weithwyr cymdeithasol sy’n fyfyrwyr yn y gobaith y byddant yn parhau i’w ddarllen pan fyddant yn ymarfer. Cefais fy ngwahodd i ddod â fy mhrofiad o annog amrywiaeth o gyfraniadau fel yr hyn a gyflawnwyd gennym gyda'r cylchgrawn ar-lein Gwaith cymdeithasol yn ystod COVID a gyhoeddodd erthyglau gan academyddion, ymarferwyr, myfyrwyr a phobl a ddefnyddiodd wasanaethau.

"Rydw i hefyd yn falch bod y panel yn dod yn fwy hiliol amrywiol ac rydw i'n edrych ymlaen at ddod â safbwyntiau newydd i BJSW."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.