Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn rhoi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith yn ystod cyfnod COVID-19

21 Mai 2020

Jessica Archer
Jessica Archer

Mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio eu sgiliau i helpu pobl mewn angen yn ystod argyfwng COVID-19.

Mae llawer ar y radd Meistr ddwy flynedd, sy’n dod i ben ym mis Gorffennaf, eisoes wedi cael eu cyflogi gan sefydliadau sy’n gweithio i gynnig gwasanaethau parhaus i’r bobl sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan fesurau cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd Abyd Quinn-Aziz, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a chyfarwyddwr y rhaglen MA: “Mae ein myfyrwyr wedi ymateb yn gyflym i wynebu’r heriau presennol ac yn gweithio i helpu i wneud yn siŵr nad yw’r rheiny sydd angen cefnogaeth a gofal yn cael eu hanghofio yn ystod y pandemig hwn. Rwy’n falch o’u hymrwymiad.

“Mae’r argyfwng wedi amlygu pwysigrwydd a gwerth y sector hwn. I’r rheiny yn y gymdeithas sy’n fwy agored i niwed, mae gweithwyr cymdeithasol yn cynnig rhaff achub hanfodol ar adeg caledi. Bydd y rôl hon yn fwy hanfodol fyth dros y misoedd i ddod. Rwy’n gwybod bod ein myfyrwyr wedi dangos ymrwymiad ac wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth er mwyn gallu cynnig gwasanaethau allweddol mewn ystod o amgylchiadau.”

Jessica Archer

Mae mam i ddau, Jessica Archer, 34, wedi cydbwyso cwrs Meistr dwy flynedd â sifftau nos a gofalu am ei phlant. A hithau’n weithiwr cymdeithasol cynorthwyol i Gyngor Sir Fynwy bellach, mae hi’n ymweld â chartrefi ac yn ffonio pobl, gan lwyddo i addysgu Scarlett, 9, a Noah, 13 gartref hefyd.

“Pan oeddwn i’n 15 oed, es i ar gwrs ac rwy’n cofio dweud, ‘dw i eisiau bod yn weithiwr cymdeithasol’. Wnaeth hynny ddim newid erioed, ond fe wnaeth bywyd rwystro’r llwybr ‘na i fi. Rhoddais i’r gorau i’m cymwysterau Safon Uwch yn gynnar, a ches i blant yn eitha ifanc. Gweithiais i’r GIG yn gwneud gwaith allgymorth ynghylch iechyd rhywiol, yna es i faes addysg fel pennaeth lles. Rydw i hefyd wedi gweithio a gwirfoddoli i’r NSPCC am naw mlynedd.

“Meddyliais i, ‘os dw i ddim yn gwneud y radd Meistr nawr, wna i mohoni fyth’. Dw i eisiau i’m plant weld nad ydych byth yn rhy hen i gyflawni eich nodau. Rhoddais i nhw ar eu heistedd a dywedais i, ‘os ydw i’n mynd i wneud hyn, bydd yn rhaid i ni weithio fel tîm, a gwneud pethau yn y tŷ gyda’n gilydd’. Mae wedi bod yn ddwy flynedd ddwys i bob un ohonom ni, ond maen nhw wedi bod yn gefnogol tu hwnt.

“Yn fy rôl bresennol, rwy’n gweithio gyda phobl ifanc yn y tîm cefnogi a diogelu teuluoedd. Pan mae angen ymweld â chartrefi, rydyn ni’n ceisio cydbwyso hynny â risgiau ynglŷn â COVID-19. Efallai byddwch yn galw heibio tŷ, gan aros y tu allan i’r drws ffrynt. Rydym yn ceisio bod yn arloesol a lle bynnag y bo’n bosibl, cadw’r rhyngweithio hanfodol hwnnw i fynd.

“Pan dw i gartref gyda’m plant i, rydym ni’n gweithio yn unol ag amserlen dynn o addysg yn y cartref. Maen nhw’n mynd allan i’r ardd bob dydd ac mae gennym ni waith ysgol i’w wneud, yn ogystal â gorchwylion yn y tŷ. Mae’n anodd weithiau, fel bydd unrhyw riant yn ei wybod, ond rydym i gyd yn gwneud ein gorau glas.

“Fel teulu, rwy’n teimlo ein bod ni’n ffodus iawn. Mae’r sefyllfa sydd ohoni’n heriol, ond mae gennym ni lawer i fod yn ddiolchgar amdano. Rwy’n falch o wneud beth alla i er mwyn helpu’r rheiny sydd ddim mor ffodus.”

Nathaniel Wilson

Nathaniel Wilson
Nathaniel Wilson

Mae Nathaniel Wilson, 26, yn gweithio i elusen ddigartrefedd Llamau, mewn llety â chymorth i bobl ifanc rhwng 16-21 oed.

“Ar ôl astudio seicoleg yn y Brifysgol, ces i swydd gydag asiantaeth trydydd sector sy’n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl, mewn tîm sy’n helpu pobl ifanc. Gwnaeth hynny i mi benderfynu fy mod i am fynd i faesi gwaith cymdeithasol. Rwy’n hoffi gweithio gyda phobl ifanc, gan eu bod yn fwy na pharod i siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am sut maen nhw’n teimlo. Fel dyn iau yn y rôl hon, gallwch chi fod yn fodel rôl. Rwy’n gallu uniaethu â nhw o hyd i ryw raddau.

“Mae’r bobl ifanc rwy’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd mewn llety â chymorth o ganlyniad i ddigartrefedd. Fy rôl i yw eu helpu i allu byw’n annibynnol yn eu heiddo eu hunain yn y dyfodol.

“Rydw i’n eu cefnogi i reoli arian, dysgu technegau i reoli eu hemosiynau, a thyfu’n oedolion fydd yn gallu goroesi yn y gymdeithas yn dda.

“Bydd hon yn adeg ryfedd i gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol. Yn ddealladwy, mae gorbryderon pobl ifanc yn ymfflamychu pan mae pethau’n ansicr. Mae’n anodd peidio â gwybod yr holl atebion. Y cyfan gallwch ei wneud yw gwneud eich gorau i’w cysuro a’u cadw’n brysur. Craidd y gwaith yw bod yna ar eu cyfer nhw.

“Mae rhywbeth neis iawn am fod gyda rhywun pan mae pethau’n anodd a’u helpu i ddod drwyddynt, a gallu dweud wrthyn nhw pa mor dda maen nhw wedi gwneud.”

David Langley

Mae David Langley, 37, wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y sector gofal cymdeithasol, cyn penderfynu ymgymryd â’r cwrs Meistr. Bellach, mae’n gynorthwy-ydd gofal cymdeithasol i Gyngor Pen-y-Bont ar Ogwr, gan gynnal cysylltiad ag oedolion i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi.

“Roedd gen i tua saith mlynedd o brofiad o weithio yn y sector yn barod – gan gynnwys mewn cartrefi preswyl i bobl ifanc, mewn hosteli i bobl ddigartref ac ym maes cefnogi tenantiaid. Fodd bynnag, mae’r cwrs wedi bod yn gromlin ddysgu serth. Roedd y flwyddyn gyntaf yn addasiad enfawr. Roeddwn i’n darllen o’r adeg y cyrhaeddwn i adre tan i mi gwympo i gysgu, a mynd yn syth i’r brifysgol y bore wedyn. Rydw i wir wedi mwynhau’r lleoliadau ac wedi cael profiad gwych.

“Yn ddiweddar rydw i wedi ymuno â thîm sy’n gweithio gydag oedolion. Rwy’n gweithio o gartref ac yn ffonio pobl i weld sut maen nhw’n ymdopi â’u siopa a gwneud yn siŵr bod y rhwydweithiau cefnogaeth iawn yn eu lle ar eu cyfer. Efallai bydda i’n siarad â gofalwyr i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod cefnogaeth ar eu cyfer nhw, pan mae pethau fel canolfannau dydd wedi’u cau. Pan mae angen, rydym ni hefyd yn ymweld â chartrefi pobl neu ysbytai, lle nad yw dulliau amgen o gyfathrebu, fel galw drwy fideo, yn briodol.

“Mae’n wych cael y profiad hwnnw a gwneud yr hyn yr ydw i wedi bod yn ymarfer ar ei gyfer dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n braf rhoi’r hyn yr ydw i wedi’i ddysgu ar waith.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn bryderus i bawb, ac yn fwy fyth i’r rheiny sy’n cael eu hystyried fel y mwyaf agored i niwed. Mae’n bwysig iddyn nhw bod rhywun yno sy’n gallu bod yn ddigynnwrf ac yn gefnogol.

“Mae’r math hwn o waith yn bwysicach fyth ar hyn o bryd. Os ydych chi’n ceisio bod yn weithiwr cymdeithasol, rhaid i chi fod â’r cymhelliant i helpu a chefnogi pobl. Dydw i ddim yn gwybod pam byddech chi am wneud y swydd hon fel arall.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.