Ysgol yn trefnu cyfres seminar lwyddiannus i hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
29 Mehefin 2021
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol Peirianneg wedi trefnu cyfres o weminarau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr Ysgol.
Denodd y gweminar diweddaraf a gynhaliwyd ym mis Mai 2021 'Mynd i'r Afael â Hiliaeth mewn Addysg Uwch' gynulleidfa fawr gyda thros 80 o staff o bob rhan o'r Brifysgol yn bresennol.
Rhannodd siaradwyr gwadd fanylion eu gwaith a'u profiadau mewn sefydliadau Addysg Uwch, gan gynnwys:
- Mia Liyanage, Cydymaith yn Advance HE a Swyddog Siarter Cydraddoldeb Hil ym Mhrifysgol Goldsmiths Llundain.
- Sarah Mohammad-Qureshi, Cydlynydd Nodau Siarter / Cynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Prifysgol Manceinion.
- Adrian Liu, Cynghorydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Prifysgol Caledonian Glasgow.
Ymunodd Abyd Quinn-Azyz, Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb Hil Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Mehrunnisa Lalani, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dros Dro) ym Mhrifysgol Manceinion â'r panel ar gyfer sesiwn holi ac ateb.
Cafwyd adborth gwych gan y rheini oedd yn bresennol, gydag un yn nodi: "Roedd y dewis o siaradwyr yn rhagorol, cafwyd isbynciau ac agweddau amrywiol, addysgiadol oedd yn procio'r meddwl. Dyma'r sgwrs fwyaf addysgiadol i fi fod iddi yn y Brifysgol ac rwyf i wedi bod yn gweithio yma ers yn agos i 4 blynedd."
Cynhaliwyd y gweminar cyntaf 'Athena Swan: Taith Barhaus’ ym mis Gorffennaf 2020 a gwahoddwyd dau westai i drafod eu taith o welliant parhaus gydag Athena Swan. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Athro Inke Nathke, Ysgol Gwyddorau Bywyd Prifysgol Dundee, a'r Athro Louise Bryant, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Leeds.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn bwriadu rhedeg y trydydd gweminar 'Sut i fynd i'r afael â chyfeiriadedd rhywiol a gwahaniaethu ar sail rhyw ar y campws a thu hwnt' ar 16 Gorffennaf 2021. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Sebastian Bromelow, Partner Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Prifysgol Kingston, y DU
- Alessandro Ceccarelli, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caergrawnt, y DU.
- Christopher Clarke, Mott MacDonald a Chyd-gadeirydd Sicrhau Cydraddoldeb ar gyfer De Cymru a De-orllewin Lloegr, y DU.
- Karen Harvey-Cooke, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chadeirydd Enfys, Prifysgol Caerdydd, y DU.
Os ydych chi'n aelod o'r Ysgol Peirianneg ac â diddordeb mewn dod i'r gweminar, cysylltwch â Phwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol i gael dolen gofrestru. Os ydych chi wedi colli gweminar, mae rhai wedi'u recordio a gallwch eu gwylio yn eich amser eich hun.