Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn canfod bod polisi’r Llywodraeth ar dribiwnlysoedd cyflogaeth yn seiliedig ar ffigurau sydd wedi’u chwyddo ar gam

23 Ebrill 2021

People gathered around table in discussion

Mae ystadegau swyddogol ar y nifer o hawliadau a gyflwynwyd i dribiwnlysoedd wedi’u gorchwyddo o leiaf 25% oherwydd chwiw gudd yn y ffordd y cânt eu cyfrif, yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r ymchwil yn dangos bod y Gweinidog Sgiliau a Menter ar y pryd, Matt Hancock, yn dibynnu ar ffigurau chwyddedig wrth wneud sylwadau ar ddeddfwriaeth yn 2013 a gyflwynwyd i leihau nifer yr hawliadau oedd yn mynd i dribiwnlysoedd, gan eu cymharu â “chlymog Japan”.

Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol ar-lein Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain (BSA), esboniodd Jonathan Mace, myfyriwr ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd, fod y chwiw yn deillio o’r ffordd y cofnodwyd hawliadau dan Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yr UE, a fabwysiadwyd gan y DU yn 1998.

Pan fyddai gweithwyr yn dod â hawliad yn erbyn eu cyflogwr am beidio â dilyn y Gyfarwyddeb* - am gyfrif tâl gwyliau yn anghywir er enghraifft – byddai’r system yn mynnu eu bod yn adnewyddu eu hawliad bob tri mis.

Felly os oedd eu cais yn cymryd blwyddyn i gyrraedd tribiwnlys, fel oedd yn digwydd i rai, byddai’n cael ei gofnodi fel hawliad newydd bedair gwaith, yn hytrach nag unwaith yn unig.

Os byddai gweithwyr mewn cwmni mawr yn dod â’r un achos, gallai hyn arwain at gofnodi degau o filoedd o hawliadau fel rhai newydd pan oedden nhw mewn gwirionedd yn ailadrodd anghydfod oedd eisoes yn bodoli. Mae rhai hawliadau wedi cymryd 10 mlynedd i’w datrys.

Rhith-hawliadau

Dywedodd Mr Mace, sy’n cynnal yr ymchwil fel rhan o’i astudiaeth ddoethurol yn Ysgol Busnes Caerdydd, fod y ffigurau swyddogol yn dangos bod y nifer o hawliadau tribiwnlys cyflogaeth wedi codi o tua 90,000 yn 1998 i 236,000 yn 2009.

Yn 2013, pan gofnododd y ffigurau 190,000 o hawliadau newydd, cyflwynodd y llywodraeth ffi o hyd at £1,200 i weithwyr oedd am gyflwyno hawliad. Arweiniodd hyn at gwymp sydyn yn y nifer o achosion.

Yn 2014 dywedodd Mr Hancock: “Achoswyd anhrefn gan weithwyr diegwyddor a anfonodd lif o honiadau di-sail o gamdriniaeth, gwahaniaethu neu waeth. Fel clymog Japan, llusgodd y nifer cynyddol o achosion tribiwnlys fwy a mwy o gwmnïau i’w gafael, gan wasgu bywyd ac egni allan o greawdwyr cyfoeth Prydain.”

Ond oherwydd y ‘rhith-hawliadau’, barn Mr Mace yw nad 190,00 oedd y gwir ffigur, ond yn  hytrach tua 110,000 neu lai, gan olygu bod y cynnydd ar ol y Gyfarwyddeb llawer yn llai dramatig.

“Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y nifer o hawliadau a gaiff eu cyflwyno a’r nifer o bobl sy’n eu cyflwyno - mae ‘rhith’ hawliadau yn y system. Nid yw hyn wedi’i nodi o’r blaen. Digwyddodd y cynnydd mewn hawliadau tribiwnlys cyflogaeth rhwng 2002/03 a 2012/13 o leiaf yn rhannol oherwydd ‘rhith-hawliadau’ ac nid ‘clymog Japan’ neu hawliadau blinderus. Felly dyw’r ystadegau ddim yn dilysu rhai o’r dehongliadau polisi a gwleidyddol a seiliwyd arnynt.”

Jonathan Mace

“Mae’n bosibl fod y cwymp yn y nifer o hawliadau tribiwnlys yn dilyn cyflwyno ffioedd tribiwnlys cyflogaeth yn gyd-ddigwyddiad, a hynny’n rhannol am fod problem y ‘rhith-hawliadau’ wedi ei datrys ei hun” ychwanegodd.

*Cyflwynwyd tua thraean o’r hawliadau gerbron tribiwnlysoedd yn y cyfnod 2002/03 i 2012/13 dan y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.

Cynhaliwyd 70ain cynhadledd flynyddol Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain ar-lein rhwng 13 a 15 Ebrill 2021.

Rhannu’r stori hon

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i gymuned ymchwil ac academaidd yr Ysgol.