Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i gyn-fyfyrwraig ar Twitter gan Theo Paphitis

20 Ebrill 2021

Logo on white background

Mae cwmni dillad yng Nghaerffili a sefydlwyd gan y cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd Lois Leach (BSc 2016) wedi derbyn hwb i'w busnes gan yr Entrepreneur Manwerthu Theo Paphitis.

Anfonodd Lois, perchennog Sin Bin Clothing a chyn-fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, drydar at Theo am ei busnes yn ystod ’Sul y Busnesau Bach’ (#SBS) ac roedd yn un o chwe enillydd wythnosol i gael eu haildrydar gan Theo i yn agos i hanner miliwn o ddilynwyr Twitter.

Bellach mae gan y fenter wythnosol a sefydlwyd gan Theo yn 2010 dros 3,000 o enillwyr #SBS ac mae'n cefnogi busnesau bach ledled y DU.

Ail-drydarodd Theo, entrepreneur busnes a manwerthu sy'n galw ei hun yn siopwr, neges Sin Bin Clothing i yn agos i 500,000 o ddilynwyr ac o ganlyniad, mae sinbinclothing.co.uk wedi cael mwy o ddilynwyr ac archebion ychwanegol i'w cynhyrchion sy’n cael eu creu’n bwrpasol. Mae proffil o gwmni Lois hefyd i’w weld ar wefan #SBS, mantais arbennig arall enillwyr Sul y Busnesau Bach.

Dywedodd Lois: “Mae Sin Bin Clothing yn frand dillad wedi'i ysbrydoli gan hoci iâ, ac fe ddechreuodd yn wreiddiol fel prosiect cyfnod clo yng nghanol y pandemig ym mis Mai 2020.

“Ers hynny, rydyn ni wedi sicrhau cwsmeriaid yn fyd-eang drwy Ewrop, UDA a Chanada. Rydyn ni hefyd wedi cefnogi timau bach, campfeydd hoci ac elusennau gyda'u dillad Sin Bin arbennig eu hunain...”

“Graddiais o Ysgol Busnes Caerdydd yn 2016, ond roedd bod yn berchen ar fusnes llwyddiannus wedi bod yn freuddwyd i mi erioed. Mae gwireddu’r uchelgais hwn yn wych. Allaf i ddim aros i weld fy musnes bach yn tyfu a gweld i ble y bydd yn mynd â fi. Rwyf i ar ben fy nigon bod Theo wedi cydnabod ein gwaith caled ac wedi helpu i ledaenu'r gair am ein gwaith i'w ddilynwyr.”

Lois Leach Perchennog Sin Bin Clothing a chyn-fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd
Three men wearing sport clothing
Ice Hockey professionals (L-R) Alex Graham, Viktor Langseth and Sam Duggan wearing Sin Bin Clothing.

Dywedodd Theo Paphitis, sy'n hyrwyddwr busnesau bach a Chadeirydd Ryman Stationery, Robert Dyas a Boux Avenue: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu aelodau newydd i #SBS bob wythnos ac yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw cefnogi ein busnesau bach yma yn y DU...”

“Fy ngweledigaeth yw y bydd pawb sydd erioed wedi ennill ail-drydariad #SBS gen i yn dod yn rhan o glwb cyfeillgar; pobl o'r un anian all rannu llwyddiannau a chyd-ddysgu. Bydd y wefan hefyd yn rhoi proffil gwerthfawr i'r enillwyr ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i Sin Bin Clothing.”

Theo Paphitis Chadeirydd Ryman Stationery, Robert Dyas a Boux Avenue

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cael eu hail-drydar gan Theo anfon trydar ato am eu busnes rhwng 5pm a 7.30pm gyda'r hashnod #SBS.

Caiff chwe busnes lwcus eu haildrydar bob dydd Llun am 8pm ac yna fe'u gwahoddir i osod eu proffil ar y wefan newydd, mynd i'r digwyddiad rhwydweithio #SBS blynyddol a manteisio ar y cyfleoedd rhwydweithio.

Ceir rhagor o wybodaeth am Sin Bin Clothing ar eu gwefan, gallwch ebostio Lois neu eu dilyn ar Instagram a Twitter @sinbinclothing.

Rhagor o wybodaeth am Sul y Busnesau Bach.

Rhannu’r stori hon

We can help you develop your business start up ideas as well as offer you guidance and practical support.