Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr sy'n entrepreneur yn ennill lle ar raglen Cyflymu Rhagoriaeth Llywodraeth Cymru

26 Chwefror 2021

Young man outdoors wearing t-shirt and jacket

Mae myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydlodd siop ailwerthu ar-lein a brand dillad stryd cynaliadwy pan oedd yn 14 oed wedi sicrhau lle ar y rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Olli Smith, myfyriwr BSc Rheoli Busnes ar ei flwyddyn olaf, yn un o dri ar hugain o bobl ifanc (18 i 25 oed), menywod, aelodau o'r gymuned BAME a phobl anabl, a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen sy'n hyrwyddo amrywiaeth yn nhirwedd busnesau newydd Cymru.

Bydd y rhaglen rithwir hefyd yn helpu cyfranogwyr i oresgyn yr heriau busnes yn sgil pandemig coronafeirws (COVID-19).

Gan ddod â phobl ynghyd o’r grwpiau hynny sydd wedi profi mwy o effaith economaidd o ganlyniad i COVID, bydd y rhaglen yn cynorthwyo cyfranogwyr i ddychmygu, dechrau a meithrin mentrau newydd neu, yn achos Olli, cynyddu un sy’n bodoli eisoes.

Dros gyfnod o 12 wythnos, bydd cyfranogwyr yn:

  • Mynychu cyfres o weminarau a dosbarthiadau meistr, mentora a hyfforddi arbenigol un i un, gyda siaradwyr ysbrydoledig, modelau rôl ac arbenigwyr tyfu busnes.
  • Mynd ar daith busnes cam wrth gam, o'r syniad hyd at gwsmeriaid sy'n talu
  • Rhoi modelau busnes cynaliadwy ar waith
  • Datblygu sgiliau busnes craidd a 'meddylfryd llwyddiant'.

Dechreuodd Olli Solus Supply yn 2013, ar ôl llwyddiant cychwynnol yn rhedeg cwmni dosbarthu ar gyfer busnesau yn Bournemouth a'r cyffiniau lle cafodd ei fagu.

Cael effaith cadarnhaol

Solus Supply t-shirt collection

Ar ôl symud i Gaerdydd i astudio, aeth Solus Supply o nerth i nerth ar Facebook, Instagram ac eBay ac, yn fwyaf diweddar, trwy wefan y cwmni ei hun.

Mae eu siop ar-lein yn gwerthu crysau t, dillad fleece, siacedi byr a siwmperi gan gwmnïau fel Marino Morwood, Nike, Patagonia, heb sôn am ddillad brand Solus Supply ei hun.

Dywedodd Olli: “Rydyn ni'n defnyddio cynhyrchion cotwm organig a deunydd pecynnu ac arferion cynaliadwy lle bynnag y gallwn ni, er mwyn sicrhau ein bod ni'n lleihau ein hôl troed carbon oherwydd dwyf i ddim am i fy musnes wneud pethau'n waeth i'r amgylchedd. Rwyf i hefyd am ddechrau gwneud mwy dros elusen gyda fy musnes, drwy roi canran o'r refeniw blynyddol a chefnogi sefydliadau lleol a rhyngwladol drwy ryddhau dillad...”

“Rwyf i'n ffodus iawn i gael fy newis ar gyfer y rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth. Mae'r cyfleoedd rhwydweithio mor werthfawr, ac rwyf i eisoes wedi cyfarfod â phobl fusnes wych o bob math o ddiwydiannau ar y cynllun. Fy ngobaith yw y bydd y rhaglen yn helpu i ddatrys rhai o'r heriau rwy'n eu hwynebu gyda Solus, yn enwedig o ran cynhyrchu a chaffael cyflenwyr a llif arian hefyd.”

Olli Smith BSc Rheoli Busnes

“Yn y pen draw fy uchelgais tymor hir yw gweithio ar fy liwt fy hun a chael effaith gadarnhaol ar y byd. Rwyf i am wella bywydau, ac nid gwneud elw yn unig.”

Cyflwynir y rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth fel rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Hoffwn longyfarch y sylfaenwyr busnes hyn ar gael eu dewis i gymryd rhan yn y Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth gyntaf. Rydym ni'n cydnabod nad oes cynrychiolaeth ddigonol o blith menywod, pobl ifanc, pobl o gefndir BAME a phobl sy'n byw ag anabledd o ran cychwyn busnesau yng Nghymru, ac rydym ni am helpu i newid hynny.

“Mae'r Rhaglen hon yn rhan o'n buddsoddiad o £40m i gyflawni ein 'Ymrwymiad COVID'. Mae'r cyllid ar gael i sicrhau y gall unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru gael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i waith neu fynd yn hunangyflogedig. Bydd annog a chefnogi entrepreneuriaeth yn rhan fawr o'r ymrwymiad hwn, felly bydd y rhaglen yn helpu entrepreneuriaid sydd â photensial twf uchel i gael gafael ar yr arbenigedd angenrheidiol i godi eu cwmnïau i'r lefel nesaf...”

“Mae hwn yn gyfle gwych i’r 23 entrepreneur sy’n cymryd rhan, fydd yn derbyn cefnogaeth arbenigol i ddatblygu model busnes cynaliadwy, cadarn. Bydd y rhaglen yn cynnig cysylltiadau amhrisiadwy â rhwydwaith o fentoriaid a chyfoedion profiadol, fydd yn gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun twf clir.”

Ken Skates Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd Olli a gweddill y garfan yn gorffen y rhaglen gyda digwyddiad gwobrwyo ym mis Ebrill 2021, fydd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer codi proffil a chysylltiadau cyhoeddus Solus Supply a'r cwmnïau eraill sy'n cymryd rhan.

Rhagor o wybodaeth am Solus Supply.

Lle bynnag ydych chi ar eich taith entrepreneuraidd, gall Tîm Mentro a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd eich cefnogi wrth i chi ddatblygu sgiliau ar gyfer dechrau busnes, hunangyflogaeth ac arloesi.

Rhannu’r stori hon

We can help you develop your business start up ideas as well as offer you guidance and practical support.