Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn Cymorth Defnyddio Blockchain

19 Mehefin 2020

Audience at World Economic Forum event

Mae Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau o Brifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Pecyn Cymorth Defnyddio Blockchain Fforwm Economaidd y Byd (WEF).

Bu Dr Yingli Wang, arbenigwr yn Ysgol Busnes Caerdydd mewn technoleg cyfriflen ar wasgar a blockchain ar gyfer cadwyni cyflenwi, yn gweithio gyda thros 100 o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ar draws y byd i ddod ag offerynnau, adnoddau a gwybodaeth at ei gilydd i sefydliadau sy’n cynnal prosiectau blockchain.

Mae’r Pecyn Cymorth Ailgynllunio Ymddiriedaeth yn arwain sefydliadau drwy’r broses o ddatblygu a defnyddio datrysiadau blockchain newydd i ymdrin â’u heriau busnes.

Ers dros flwyddyn, bu Dr Wang ynghyd â’r tîm o gydweithwyr yn dadansoddi prosiectau real a nodi gwersi allweddol i helpu sefydliadau i wreiddio arferion gorau ac osgoi rhwystrau posibl wrth ddefnyddio technoleg cyfriflen ar wasgar.

Dywedodd Dr Wang: “Roedd y broses o ddatblygu’r pecyn cymorth yn ddwys a chafwyd sawl iteriad. Fy rôl i yn y gwaith datblygu oedd hwyluso gweithdai ac yna arwain gwerthusiad annibynnol o’r pecyn cymorth drwy nifer o achosion defnydd peilot. Buom yn peilota mewn amrywiol gyd-destunau gwahanol gyda sefydliadau’n datblygu datrysiadau blockchain ar gyfer eu cadwyni cyflenwi, gan gynnwys Awdurdod Digidol Abu Dhabi,  Hitachi, Saudi Aramco yn ogystal â nifer o BBaChau...”

“Cyfrannodd ein canfyddiadau’n gadarnhaol at iteriad ac adolygiad pellach ac yna at gwblhau’r pecyn cymorth. Ac yn fy ngwaith i ar greu gwerth a alluogwyd gan dechnoleg blockchain, rwyf i wedi gweld faint o wahaniaeth y gall ei wneud yn arbennig mewn sectorau fel adeiladu, yr economi gylchol a hyd yn oed dlodi bwyd.”

Yr Athro Yingli Wang Professor in Logistics and Operations Management, Deputy Head of Section - Research, Impact and Innovation

“Felly mae’n braf gweld y pecyn cymorth allan yna i ymarferwyr ac yn bwysicaf oll i sefydliadau gael manteisio arno.”

Lansiwyd y pecyn cymorth, y cyntaf o’i fath, gan WEF ym mis Ebrill 2020, ac mae’n cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr a chanllawiau allweddol ar bynciau fel risg, ffurfio consortia, diogelwch a chydweithio ecosystem. Rhennir yr anodd yn bymtheg modiwl, a gellir ei gyrchu ar-lein.

“Mae galw anhygoel am y pecyn cymorth, ac mae bellach wedi’i fabwysiadu’n ffurfiol yng ‘nghanllawiau digidol’ nifer o sefydliadau. Roedd rhan allweddol gan Dr Wang yn sicrhau ein bod yn cyflawni hyn.”

Nadia Hewett Arweinydd Prosiect Blockchain a Chyfred Digidol yn Fforwm Economaidd y Byd

Yn ei rôl fel Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cydweithio Cyhoeddus-Preifat, mae WEF yn ymgysylltu â’r arweinwyr gwleidyddol, busnes, diwylliannol ac eraill yn y gymdeithas i ffurfio agendâu byd-eang, rhanbarthol ac i ddiwydiant.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.