Ewch i’r prif gynnwys

Galw am i gartrefi gofal Cymru fod yn rhan o dreial COVID-19 newydd

1 Chwefror 2021

Care home resident and worker stock image

Gofynnir i gartrefi gofal ledled Cymru gymryd rhan mewn treial arloesol sy'n edrych tuag at leihau trosglwyddiad Covid-19 a'i ddifrifoldeb mewn cartrefi gofal.

Fel rhan o'r treial, bydd ymchwilwyr yn profi cyffuriau sydd eisoes yn dangos addewid ar gyfer trin Covid-19, ond yn eu defnyddio yn lle hynny i atal Covid-19.

Bydd y tîm yn canolbwyntio ar breswylwyr cartrefi gofal – y nod yw lleihau nifer a difrifoldeb achosion Covid-19 yn y cartrefi hynny.

Mae'r tîm yn chwilio i ddechrau am hyd at 400 o gartrefi gofal o bob rhan o'r DU i gymryd rhan yn y treial o'r enw PROTECT.

Mae gan Gymru fwy na 1,200 o gartrefi gofal yn gofalu am oddeutu 26,000 o breswylwyr, ac mae gan lawer ohonynt anghenion dementia neu ofal corfforol.

Os gall PROTECT ddynodi cyffur effeithiol i leihau difrifoldeb Covid-19, a'r tebygolrwydd o'i drosglwyddo, yna gallai hyn, ochr yn ochr â mesurau eraill, helpu i alluogi dychwelyd i fywyd mwy normal i breswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd, gan gynnwys polisïau ymweld mwy hael.

Bydd gan y treial strwythur “platfform”, a fydd yn gwerthuso'n gyflym y triniaethau ymgeisiol ar gyfer Covid-19. Fodd bynnag, bydd PROTECT yn rhoi un o hyd at dri chyffur neu ddim triniaeth ychwanegol i gartrefi gofal ar hap (yn hytrach nag i breswylwyr unigol), mewn dyluniad clwstwr rheoledig ar hap.

Mae'r dyluniad hwn yn caniatáu profi sawl cyffur yn gyfochrog ac yna ychwanegu cyffuriau newydd ar ôl dangos bod yr ymgeiswyr cyntaf yn fuddiol neu ddim yn cael unrhyw effaith ddefnyddiol. Rhoddir triniaeth ochr yn ochr â'r rhaglen frechu barhaus.

Dywedodd Jonathan Hewitt, Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Geriatreg a Strôc ym Mhrifysgol Caerdydd: “Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, y rhai mwyaf agored i niwed yw'r rhai sy'n marw o COVID-19, ac mae bywyd mewn cartrefi gofal ledled y wlad wedi newid yn ddramatig dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Gyda hynny mewn golwg, mae ymchwil barhaus, nid yn unig yn feddygol, ond o fewn y sector gofal hefyd, o'r pwys mwyaf i nodi ffyrdd y gallwn drin ac atal y feirws hwn rhag lledaenu.

“Fel un o’r ychydig geriatregwyr academaidd yng Nghymru, fe wnes i groesawu cael dull cenedlaethol, gyda chartrefi gofal Cymru ac aelodau’r cyhoedd yn cyfrannu at ymchwil sydd â chymaint o botensial i newid bywydau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n gilydd i helpu i lunio'r ymchwil sydd ei angen i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn risg.”

Wedi'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac ENRICH Cymru, gan  bydd y treial yn cael ei gydlynu o Brifysgol Nottingham ac yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgolion Caeredin, Caergrawnt, Surrey a Warwick a Phrifysgol Queen's, Belffast a Choleg Prifysgol Llundain.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.protect-trial.net

Os ydych chi'n Rheolwr Cartref Gofal a bod gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y treial ac o bosibl cymryd rhan, cwblhewch yr arolwg mynegiant o ddiddordeb.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.