Ewch i’r prif gynnwys

Cyflog Byw yn cyrraedd carreg filltir £1bn

24 Medi 2019

Image of scrabble squares

Mae'r ymgyrch dros Gyflog Byw go iawn wedi rhoi mwy na £1 biliwn mewn cyflogau ychwanegol i weithwyr ers 2001 yn ôl ffigurau a gyfrifwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae'r dadansoddiad rhanbarthol a ryddhawyd gan y Sefydliad Cyflog Byw ar 28 Awst 2019, yn amlygu effaith yr ymgyrch drwy nifer y cyflogwyr Cyflog Byw ledled y DU a'r cyflogau ychwanegol a dalwyd o ganlyniad i'w hymrwymiad i'r ymgyrch.

Mae'r ffigurau a gyfrifwyd gan yr Athro Ed Heery, Dr Deborah Hann a Dr David Nash o Ysgol Busnes Caerdydd yn rhan o brosiect ymchwil parhaus ar y Cyflog Byw go iawn sydd, dros gyfnod o bedair blynedd, wedi eu gweld nhw'n mesur manteision busnes achredu a'u heffaith ar weithwyr.

Meddai David Nash: “Mae ein hymchwil yn dangos bod y Cyflog Byw go iawn wedi cael effaith arwyddocaol ar godi tâl gweithwyr mewn cyrff wedi'u hachredu, sydd i'w cael ym mhob rhanbarth o'r DU ar draws yr ystod lawn o weithgaredd economaidd. Mae'r ffigurau'n dangos pwysigrwydd yr ymgyrch Cyflog Byw er mwyn mynd i'r afael â phroblem tâl isel yn y DU.”

Dadansoddiad Rhanbarthol

Rhanbarth

Cyflogau ychwanegol a dalwyd o ganlyniad i'r Cyflog Byw

Nifer y cyflogwyr Cyflog Byw

Llundain

£576,934,302

1,660

De-ddwyrain Lloegr

£57,411,660

476

De-orllewin Lloegr

£25,725,423

280

Yr Alban

£164,961,510

1,538

Cymru

£29,351,979

216

Dwyrain Canolbarth Lloegr

£12,732,899

154

Gorllewin Canolbarth Lloegr

£44,947,809

200

Swydd Efrog a Humber

£13,155,098

245

Gogledd-ddwyrain Lloegr

£4,708,270

105

Gogledd-orllewin Lloegr

£62,202,693

416

Dwyrain Lloegr

£19,943,970

214

Ymrwymo i dalu

Dechreuodd yr ymgyrch dros Gyflog Byw Llundain yn Nwyrain Llundain, lle roedd glanhawyr a oedd yn gweithio yn y Ddinas yn gweithio sawl swydd ac oriau hir ar y isafswm cyflog ac roedden nhw'n ei chael hi'n anodd cadw deupen llinyn ynghyd.

Gyda chefnogaeth gan y trefnwyr cymunedol Citizens UK, dechreuodd gweithwyr ymgyrch Cyflog Byw, gan alw ar gyrff yn Nwyrain Llundain i ymrwymo i dalu Cyflog Byw go iawn a oedd yn talu am gost byw i bob un o'u gweithwyr, gan gynnwys gweithwyr cyflenwyr allanol a gweithwyr contract.  Ers hynny mae'r ymgyrch wedi ennill dros £1bn o gyflogau ychwanegol ac wedi codi dros 200,000 o bobl allan o dlodi gweithio.

Yn 2011 sefydlwyd Sefydliad Cyflog Byw i ymgyrchu dros Gyflog Byw ledled y DU.  Meddai Katherine Chapman, Cyfarwyddwr Sefydliad Cyflog Byw: “Rydyn ni'n siarad â gweithwyr bob dydd sy'n dweud wrthon ni am y gwahaniaeth y mae Cyflog Byw go iawn wedi'i wneud iddyn nhw. Mae rhai wedi gallu torri'n ôl ar oramser fel y gallan nhw fynd adref i weld eu plant cyn amser gwely. I eraill mae wedi golygu nad oes rhaid iddyn nhw ddewis mwyach rhwng gwresogi eu cartrefi neu roi bwyd ar y bwrdd. Mae hyn wir yn bwysig – mae dros draean y rhieni sy'n gweithio ar dâl isel wedi mynd heb bryd o fwyd oherwydd diffyg arian, ac mae bron i chwarter yn credu bod tâl isel wedi cael effaith negyddol ar eu perthynas â'u plant.

“Mae llwyddiant Cyflog Byw yn dyst i arweiniad dros 5,500 o fusnesau ledled y DU, sy'n parhau i gydnabod pwysigrwydd cyflog sy'n talu mewn gwirionedd am gost byw. Mae cyflogwyr Cyflog Byw yn deall y gwerth y mae cyflog ddechau yn ei roi i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal ag i fusnesau drwy wella ysgogiad a chynhyrchedd.”

Y Cyflog Byw yw unig gyfradd gyflog sydd wedi'i chyfrifo'n annibynnol yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl i gael deupen llinyn ynghyd. Mae'r gyfradd yn cwmpasu'r holl eitemau hanfodol fel costau tai, bwyd, cludiant a gofal plant, yn ogystal â phryniadau pwysig fel côt aeaf i blant.

Rhannu’r stori hon

A two page document outlining the main points of this research project.