Ewch i’r prif gynnwys

Compact Swyddi Cymunedol

27 Mai 2020

MSc HRM students introduce the the Community Jobs Compact to the University Health Board

Mae myfyrwyr ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd wedi annog cyflogwyr i ymrwymo i ymarfer gorau o ran cyflog, cyfleoedd cyfartal, diogelwch swyddi a hyfforddiant fel rhan o fenter a arweinir gan Citizens Cymru Wales.

Cyflwynwyd myfyrwyr MSc Rheoli Adnoddau Dynol o Ysgol Busnes Caerdydd i’r Compact Swyddi Cymunedol (CJC) yn rhan o fodiwl cysylltiadau cyflogaeth dan arweiniad Dr Deborah Hann.

Nod y Compact yw dod â phobl leol a chyflogwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â thlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithle drwy:

  • achrediad cyflog byw gwirioneddol.
  • Arferion recriwtio teg, gan gynnwys CVs heb enwau na chyfeiriadau a hyfforddiant mewn tueddiadau diarwybod.
  • Diogelwch swyddi, gan gynnwys dim gorfodaeth ar gyfer contractau dim oriau.

Ar ôl gwneud ymchwil i sefydliadau lleol a’u harferion busnes, cymerodd y myfyrwyr ran mewn ‘diwrnod gweithredu’ ar 3 Rhagfyr 2019. Wedi’u gwisgo fel Siôn Corn ac yn canu carolau Nadolig, gwnaethant fynd â basgedi cyflog byw a chardiau Nadoligaidd i saith cyflogwr lleol yn ogystal â gwahoddiadau i gyfres o gyfarfodydd.

Students dress as Santa for action day in December 2019

Yn sgil y trafodaethau daeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyflogwyr ag achrediad cyflog byw gwirioneddol. Gwnaed ymrwymiadau pellach gan bob un o’r saith cyflogwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu De Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru) i gynnal cyfarfodydd dilynol i drafod unrhyw broblemau eraill ac achrediad posibl yn y dyfodol.

Students join Citizens Cymru Wales to campaign for a Real Living Wage at BBC Cymru Wales

Meddai Dr Deborah Hann, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth a Chyfarwyddwr Rhaglen ar y cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol: “Rwy’n hynod falch o’r gwaith mae ein grŵp wedi’i wneud gyda Citizens Cymru Wales...”

“Mae’n cyd-fynd â diben gwerth cyhoeddus yr Ysgol ac yn brofiad hynod werthfawr sy’n rhoi cipolwg i’n myfyrwyr Rheoli Adnoddau Dynol oherwydd ei fod yn ymwneud ag arferion cysylltiadau cyflogaeth megis talu cyflog byw, cynnal arferion recriwtio teg a mesurau diogelwch swyddi.”

Dr Deborah Hann Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyflogaeth, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Canlyniadau cadarnhaol

Ers dechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Hydref 2019, dysgodd myfyrwyr, o brosiect gwrando, fod pobl yn ardal Butetown, Caerdydd, yn teimlo bod eu gwreiddiau ethnig a’u cyfeiriad post yn cyfyngu ar eu gallu i wneud cais am swyddi da a diogel gyda chyflogwyr lleol.

Roedd yr addysgu, a gyflwynwyd ar y cyd â Citizens Cymru Wales, yn cynnwys taith o ardal Butetown, cyfarfodydd gydag aelodau o’r gymuned a wnaeth gyfleu’r problemau, a chyfres o fewnwelediadau gan gyflogwyr sydd eisoes wedi ymuno â'r Compact.

Ychwanegodd Dr Hann: “Yn ogystal â sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer Citizens Cymru Wales, mae’n rhan o ymgais tuag at agenda addysgu newydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n hyrwyddo asesu gwirioneddol.

“I minnau, mae hynny’n golygu cynnwys myfyrwyr mewn prosiectau lle maen nhw’n dysgu wrth wneud gwahaniaeth yn y cymunedau yma yng Nghaerdydd a thu hwnt.”

Dangosodd arbenigwyr ymarfer, drwy arwain sesiynau yn ystod wythnos un ac wythnos saith o’r modiwl cysylltiadau cyflogaeth, sut mae trefnu cymunedol yn gweithio, gan roi enghreifftiau o ymgyrchoedd blaenorol ac yna gweithio gyda’r myfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu eu prosiect ‘diwrnod gweithredu’ a’i wneud yn ymarferol.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’r Compact Swyddi Cymunedol yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn Butetown, Grangetown a Glan-yr-Afon.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.