Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd i werthuso’r defnydd o wrthfiotigau gyda chleifion ysbyty sydd â COVID-19

11 Rhagfyr 2020

Stock image of a hospital drip

Mae grŵp o ymchwilwyr am werthuso a allai prawf gwaed syml ar gyfer haint bacterol helpu i leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar gyfer cleifion â COVID-19.

Defnyddir prawf gwaed procalcitonin (PCT) mewn ysbytai i wahaniaethu rhwng heintiau bacterol a feirysol ac arwain triniaeth wrthfiotig.

Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar p’un a yw’r prawf yn effeithiol ymhlith cleifion COVID-19 drwy edrych ar ddata o don gyntaf y pandemig yn ysbytai’r DU.

Meddai Dr Emma Thomas-Jones, dirprwy-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, sy’n cydlynu’r ymchwil: “Feirws SARS-COV-2 sy’n achosi COVID-19, felly nid oes gan gwrthfiotigau unrhyw effaith uniongyrchol. Ar ben hynny, mae data a gyhoeddwyd yn awgrymu bod cyfraddau bacterol eilaidd yn isel ymhlith cleifion COVID-19, felly gallai defnyddio gwrthfiotigau wrth gam cynnar o’r clefyd fod yn ddiangen.

“Er gwaethaf hyn, mae gwrthfiotigau’n cael eu rhoi i gleifion ar sail profiad a mater o drefn oherwydd pryderon y gallen nhw gael heintiau bacterol eilaidd."

Gallai pandemic COVID-19 gynyddu’r defnydd o wrthfiotigau ar adeg pan mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad cynyddol i iechyd byd-eang. Mae’n bwysig edrych yn ofalus ar ein defnydd o wrthfiotigau ym mhob sefyllfa er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Dr Emma Thomas-Jones Research Fellow - Senior Trial Manager in Infections and Devices

Mae procalcitonin yn ddynodwr haint y gellir ei fesur drwy sampl gwaed cyflym.

Bydd y dadansoddwyr yn dadansoddi data ôl-syllol gan 7,000 o gleifion COVID-19 ar draws 11 o ysbytai aciwt – gyda hanner y rhain wedi defnyddio profion PCT yn ystod ton gyntaf y  pandemig – i weld a ddylai profion PCT gael eu defnyddio, ac ym mha ffordd, i ddiogelu cleifion rhag gorddefnyddio gwrthfiotgau os bydd y GIG yn wynebu ail don.

Eu nod fydd gweld a wnaeth defnyddio’r prawf gyda chleifion COVID-19 leihau gwrthfiotigau a/neu wella deilliannau i gleifion, megis amser yn yr ysbyty neu ofal dwys, cyfraddau marwolaeth a heintiau oherwydd archfygiau, a bydd hefyd yn asesu pa mor gost-effeithiol yw hyn.

Byddant yn paratoi canllawiau i gleifion ynglŷn â’r ffordd orau o ddefnyddio’r prawf gyda chleifion sydd â COVID-19, fel bod modd dechrau ar wrthfiotigau’n gynnar os oes angen, a’u hatal yn ddisymwth, gan leihau sgîl-effeithiau, ymwrthedd i wrthfiotigau a heintiau gan archfygiau.

Meddai’r Athro Philip Howard, Llywydd Cymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain ac aelod o grŵp canllawiau brys COVID-19 ar wrthficrobau Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth ym Meysydd Iechyd a Gofal: “Mae bron dri chwarter y cleifion sy’n mynd i’r ysbyty gydag achos pendant neu dybiedig o niwmonia COVID-19 yn cael gwrthfiotigau ar gyfer yr haint feirysol hwn, er bod llai nag 1% yn cael cyd-haint bacterol.

Defnydd amhriodol o wrthfiotigau yn gyrru ymwrthedd gwrthficrobaidd, felly rwyf yn falch bod NIHR wedi comisiynu’r ymchwil bwysig hon.

Professor Philip Howard

Meddai’r cynrychiolwyr cleifion Margaret Ogden: “Rwyf yn awyddus i weld cyn lleied o wrthfiotigau’n cael eu defnyddio, a dim ond pan mae hynny’n angenrheidiol. Mae’r astudiaeth hon yn gam ymlaen mewn penderfyniadau clinigol am ragnodi gwrthfiotigau, a dylai fod o fudd i gleifion a’u gofalwyr a pherthnasau yn sgîl hynny.”

Mae astudiaeth Procalcitonin: Gwerthusiad o’r Defnydd o Wrthfiotigau gyda Chleifion COVID-19 mewn Ysbytai (PEACH) yn fenter gydweithredol rhwng Caerdydd, Prifysgol Leeds a Phrifysgol Lerpwl.  Bydd yn para 18 mis ac mae wedi cael £730,000 gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR).

Mae’n un o nifer o astudiaethau COVID-19 a ariennir gan NIHR yn rhan o’i alwad Adfer a Dysgu gwerth £5.5m i gyd. Y nod yw rheoli tonnau pandemig COVID-19 yn well, nawr ac yn y dyfodol, ac ymchwilio i’w effeithiau hirdymor ar y system iechyd a gofal y tu hwnt i’r cyfnod aciwt.

Meddai’r Prif Ymchwilydd Dr Jonathan Sandoe o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Leeds: “Nod y prosiect pwysig hwn yw lleihau’r niwed a wneir drwy roi gwrthfiotigau’n ddiangen i gleifion sy’n mynd i’r ysbyty sydd â COVID-19. Rydym yn falch iawn o dderbyn cyllid NIHR ar gyfer yr astudiaeth werthfawr hon.”

Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil yn cael ei hariannu’n gyhoeddus gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.