Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgolion yn lansio prosiect ymchwil ar agweddau’r DU at bandemig y coronafeirws

24 Mawrth 2020

Accident and emergency ward

Mae un o’r prosiectau ymchwil cyntaf sy’n ceisio mesur agweddau ac ymatebion y cyhoedd i bandemig y coronafeirws yn cael ei lansio yng Nghaerdydd.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn galw ar bobl ledled y DU i gymryd rhan mewn arolwg er mwyn asesu sut y mae pobl yn teimlo ac yn ymateb i un o’r argyfyngau iechyd mwyaf sy’n wynebu’r wlad mewn hanes diweddar.

Mae’r holiadur eang yn gofyn i ba raddau y mae pobl yn teimlo bod y pandemig yn effeithio ar eu bywydau, a beth yw eu barn ar y ffordd y mae’r llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd yn ymateb.

Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd hyd at 10,000 o bobl yn cymryd rhan - a bydd y rhai sy’n trefnu’r ymateb rheng flaen yn cael mynediad cynnar at yr adroddiadau er mwyn eu helpu i lywio’r mesurau y maent yn eu cymryd.

Dywedodd Dr Rhiannon Phillips, arweinydd y prosiect a darlithydd mewn seicoleg iechyd a lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydym wedi sefydlu’r prosiect hwn yn gyflym iawn oherwydd ein bod eisiau recordio’r hyn sy’n digwydd nawr. Dyma un o’r prosiectau cyntaf o’i fath yn y DU.

“Mae’n gyfnod ansicr i nifer o bobl - mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym - ac rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n recordio’r cyfan yn y presennol gan gynnwys yr heriau yr ydym yn eu wynebu.”

Dywedodd Dr Emma Thomas-Jones, ymchwilydd sy’n arwain ymchwil ar heintiau, llid ac imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym am gael gwybod beth mae pobl yn ei feddwl, ei deimlo ac yn ei wneud nawr er mwyn ymateb i’r argyfwng - ond hefyd er mwyn creu cofnod hanesyddol.”

Dylech allu cwblhau'r arolwg mewn tua 20-30 munud ac mae’r cwestiynau’n cynnwys:

  • Pa mor ddifrifol ydych chi’n credu bydd y coronafeirws yn y DU?
  • A oes ofn y coronafeirws arnoch?
  • Pa mor aml ydych chi’n meddwl am y coronafeirws?
  • Pa gamau penodol ydych chi’n eu cymryd a pha mor effeithiol fydd y camau hyn yn eich tyb chi?
  • Ydych chi wedi cael digon o wybodaeth am Covid-19 a pha ffynonellau yr ydych chi’n ymddiried ynddynt?

Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw am gael sylwadau gan bobl 18 oed neu hŷn gydag amrywiaeth o brofiadau, ond roedden nhw’n arbennig o awyddus i gael ymateb gan ddynion, pobl dan 30 oed a phobl dros 60 oed. Hoffent hefyd glywed gan bobl sy’n cael y sefyllfa bresennol yn arbennig o anodd oherwydd eu hamgylchiadau personol.

Bydd yr holiadur yn cael ei anfon at 36,500 o bobl drwy’r prosiect Doeth am Iechyd Cymru, sy’n casglu data er mwyn creu darlun manwl o iechyd y genedl er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol. Ond mae’r ymchwilwyr yn pwysleisio eu bod nhw eisiau i bobl ledled y DU i gymryd rhan.

Maent yn bwriadu cynnal yr arolwg, nad yw’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, eto mewn tri mis ac yna ymhen blwyddyn er mwyn mesur sut mae agweddau’n newid dros amser.

Dywedodd Dr Thomas-Jones o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn gobeithio bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o’r pandemig nawr - ac wrth iddo ddatblygu - i helpu sefydliadau iechyd a’r GIG i ymateb mewn amser real.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu i lywio’r ymateb i unrhyw bandemigau a allai’r DU eu hwynebu yn y dyfodol.”

Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu llunio adroddiad terfynol ar y prosiect a pharatoi erthygl ar gyfer cyfnodolyn academaidd. Maent hefyd yn gobeithio defnyddio eu canfyddiadau at ddibenion addysgu.

Bydd yr arolwg ar agor tan 12 Ebrill.

Rhannu’r stori hon

If you are over 16 and live in Wales, you can become part of the largest ever study in the country to contribute to the health of the nation.