Negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn helpu i leihau faint o gig sy’n cael ei fwyta
9 Rhagfyr 2020
Profwyd bod anfon negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n hysbysu pobl am effeithiau negyddol bwyta cig ar iechyd a’r amgylchedd yn llwyddo i newid arferion bwyta, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Dangosodd yr astudiaeth fod anfon negeseuon uniongyrchol ddwywaith y dydd trwy Facebook Messenger wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y cig coch a chig wedi'i brosesu roeddent yn ei fwyta dros gyfnod o 14 diwrnod.
Adroddodd y rhai a gymrodd rhan, ar gyfartaledd, eu bod wedi bwyta rhwng 7 ac 8 dogn o gig coch neu gig wedi'i brosesu yn ystod yr wythnos flaenorol cyn anfon y negeseuon Facebook. Gostyngodd hyn i rhwng 4 a 5 dogn yn ystod ail wythnos yr ymyrraeth ac arhosodd ar yr un lefel fwy neu lai fis ar ôl yr ymyrraeth.
At hynny, arweiniodd yr ymyrraeth at 'sgîl-effeithiau ymddygiadol' a arsylwyd lle nododd y cyfranogwyr awydd i leihau mathau eraill o gig y byddent yn ei fwyta yn y dyfodol, ochr yn ochr â chynhyrchion llaeth.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn Frontiers in Psychology.
Mae effeithiau bwyta gormod o gig coch a chig wedi'i brosesu ar iechyd yn hysbys, gyda chysylltiadau â chlefyd cardiofasgwlaidd, strôc, a rhai mathau o ganser.
Mae cig hefyd yn un o brif yrwyr y newid yn yr hinsawdd, sy'n gyfrifol am oddeutu 15% o allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig byd-eang, gyda chonsensws cynyddol ymhlith gwyddonwyr y bydd angen lleihau'r defnydd gormodol o gig i gyrraedd targedau newid yn yr hinsawdd.
Ac eto, mae tystiolaeth yn awgrymu bod diffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r mater a bod pobl yn tanamcangyfrif yn fawr i ba raddau y mae bwyta cig yn arwain at newid yn yr hinsawdd.
“Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae’n amser da ystyried faint o gig rydyn ni’n ei fwyta o ddydd i ddydd a’r effeithiau y gall hyn eu cael ar yr amgylchedd yn ogystal â’n hiechyd,” meddai Emily Wolstenholme, a arweiniodd yr astudiaeth."
Recriwtiwyd 320 o bobl ar gyfer yr astudiaeth, a rannwyd wedyn yn naill ai un o dri amod arbrofol, neu'r grŵp rheoli, ac anfonwyd negeseuon atynt trwy Facebook Messenger ddwywaith y dydd yn ystod y cyfnod ymyrraeth o bythefnos.
Anfonwyd gwahanol negeseuon at gyfranogwyr yn y grwpiau arbrofol, pob un yn canolbwyntio ar effeithiau amgylcheddol a/neu ganlyniadau bwyta gormod o gig ar iechyd, er enghraifft: “Os ydych chi'n bwyta dim ond ychydig bach o gig coch a chig wedi'i brosesu, byddwch chi'n amddiffyn yr amgylchedd trwy leihau rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol.”
Gofynnwyd i'r rhai a gymerodd rhan gwblhau dyddiadur bwyd bob dydd yn ystod y cyfnod o bythefnos i gadw golwg ar eu diet.
Anfonwyd arolygon atynt ar ddiwedd yr ymyrraeth pythefnos i fesur eu defnydd o gig coch a chig wedi'i brosesu, yn ogystal ag ymddygiadau eraill ecogyfeillgar. Ailadroddwyd yr un arolwg fis ar ôl diwedd yr ymyrraeth.
Dros y pythefnos gwelodd yr ymchwilwyr ostyngiad sylweddol yn y cig coch a chig wedi'i brosesu a oedd yn cael ei fwyta gan y rhai oedd yn derbyn negeseuon iechyd, negeseuon amgylcheddol a negeseuon iechyd ac amgylcheddol cyfun - heb unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng pob un o'r dulliau hyn.
Dywedodd yr Athro Wouter Poortinga, cyd-awdur yr astudiaeth o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: "Mae canlyniadau'r ymchwil yn galonogol iawn. Mae'n dangos y gallwn wneud newidiadau i'n diet, ac os ydym i gyd yn gwneud hynny, gall wneud gwahaniaeth mawr rhag y newid yn yr hinsawdd "