Ewch i’r prif gynnwys

Pobl y tu allan i'r DU yn 'fwy eco-gyfeillgar'

8 Mawrth 2017

Colourful recycling bins

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae pobl o wledydd eraill yn fwy eco-gyfeillgar ac yn fwy tebygol o gredu bod newid hinsawdd yn broblem na phobl yn y DU.

Tra bod y Brifysgol yn dathlu llwyddiant ei hymchwil Ewropeaidd a Rhyngwladol, mae'r Athro Lorraine Whitmarsh wedi cyhoeddi canlyniadau cynnar yr astudiaeth fanwl gyntaf o ymddygiadau amgylcheddol mewn gwledydd sy'n amrywio'n fawr o ran eu diwylliant.

Mae ei hymchwil yn awgrymu bod pobl y DU o'r farn bod camau syml fel diffodd y goleuadau o fudd i'r amgylchedd. Er hyn, nid ydynt yn barod i newid eu hymddygiad mewn ffordd mwy heriol, ond a allai gael mwy o effaith.

Cafodd Ymchwil yr Athro Whitmarsh €1.5m (£1.3m) gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd fel rhan o raglen ymchwil ac arloesedd FP7 yr UE, er mwyn ymchwilio i sut mae ymddygiad ecogyfeillgar yn datblygu.

Rhaglen Ymchwil ac Arloesedd fwyaf yr EU

Mae hi hefyd yn rhan o astudiaeth ryngwladol arall sy'n edrych ar effeithlonrwydd ynni domestig, ar ôl llwyddo i ennill hanner canfed grant Prifysgol Caerdydd gan Horizon 2020, y rhaglen ymchwil ac arloesedd mwyaf erioed yn yr UE, ac olynydd FP7.

Bydd yr Athro Whitmarsh, o'r Ysgol Seicoleg, yn dangos ymchwil y Brifysgol ar y cyd ag Ewrop a gwledydd Rhyngwladol mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, 9 Mawrth.

Mae ei hymchwil ar ymddygiad amgylcheddol yn ystyried a yw dechrau gweithgareddau gwyrdd newydd fel ailgylchu yn medru arwain at gymryd camau cadarnhaol eraill sy'n dda i'r amgylchedd, fel ailddefnyddio bagiau siopa.

Sorting at recycling centre

Dyma rai o'r canlyniadau cynnar:

  • Mae pobl o wahanol ddiwylliannau yn credu eu bod yn fwy gwyrdd nag ydynt mewn gwirionedd.
  • Yn ôl pob golwg, mae pobl yn y DU yn poeni llai am yr amgylchedd ac yn gwneud llai i fynd i'r afael â hyn nag mewn gwledydd eraill.
  • Tra bod y rhan fwyaf o bobl yn credu bod newid hinsawdd yn broblem, mae mwyfwy o bobl yn y DU yn amau hyn yn ôl pob golwg.
  • Mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd anghyson.
  • Mae tebygrwydd a gwahaniaethau trawiadol rhwng gwledydd.
  • Hyd yma, mae'n ymddangos fel bod yr ymddygiad hwn sydd wedi deillio o arferion eraill yn gymhleth ac yn gymharol anghyffredin.

Dywedodd yr Athro Whitmarsh: "Mae'r dadansoddiad yn awgrymu bod y sampl o bobl o'r DU yn fwy tebygol o feddwl am gynhesu byd-eang yn nhermau'r amgylchedd, tra bod gwledydd eraill, fel India yn ystyried yr effeithiau lleol sy'n deillio o hyn, fel llygredd."

"Er gwaethaf hyn, mae'n ymddangos mai'r bobl o blith sampl y DU sydd leiaf tebygol o gredu bod cynhesu byd-eang yn broblem, a phoeni amdano..."

"Er bod gan Lywodraeth Prydain ymrwymiadau cryf dros yr amgylchedd fel Deddf Newid Hinsawdd y DU, mae pobl yn y DU yn poeni llai am yr amgylchedd ac yn gwneud llai drosto na phobl gwledydd eraill yn ôl pob golwg."

Yr Athro Lorraine Whitmarsh

Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i lywodraethau, sefydliadau anllywodraethol a'r diwydiant o'r materion sy'n dylanwadu ar ymddygiad sy'n effeithio ar yr amgylchedd ar draws gwahanol ddiwylliannau. Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd o gymorth wrth ddylunio ymgyrchoedd a pholisïau amgylcheddol mwy effeithiol.

"Dim ond newidiadau bach i'w ffordd o fyw y mae'r rhan fwyaf o bobl yn barod i'w gwneud. Oherwydd hyn mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o annog ymddygiad gwyrdd sy'n gallu cyfateb i her newid hinsawdd," meddai'r Athro Whitmarsh.

Cynhelir digwyddiad sy'n dangos llwyddiant ymchwil ar y cyd rhwng y Brifysgol ag Ewrop a gwledydd Rhyngwladol yn Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, rhwng 12:00 a 17:00 ar 9 Mawrth. Bydd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James yn y digwyddiad.

Hadyn Ellis Building

“Newyddion gwych i’r Brifysgol, Cymru, a’n heconomi ehangach”

Hyd yma mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cael nawdd o £24.5m o gronfa Horizon 2020. Mae hyn wedi cynnwys astudiaethau ar ddaeargrynfeydd, penderfyniadau dynol, tonnau disgyrchiant, ynni adnewyddadwy a llwch cosmig.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bleser gennyf allu dathlu hanner canfed grant Prifysgol Caerdydd o Horizon 2020, rhaglen Ymchwil ac Arloesedd fwyaf yr EU..."

"Hoffwn longyfarch ein hymchwilwyr ar eu cyfraniadau tuag at wella dealltwriaeth o wyddoniaeth a helpu wrth fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu cymdeithas."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n dal i ymgeisio am arian o'r UE i wneud ymchwil tra bod y DU yn parhau i fod yn aelod llawn o'r UE. Mae angen i ni hefyd fanteisio ar bob cyfle arall i wneud ymchwil ar y cyd heddiw ac yn y dyfodol."

Ychwanegodd y Gweinidog: "Am wlad mor fach, mae Cymru eisoes yn cynhyrchu mwy na’i chyfran o ymchwil ryngwladol o bwys. Os ydym am barhau i ddatblygu ein harbenigedd sylweddol yn y maes hwn, rhaid i ni gydweithio’n fwy nag erioed a manteisio ar bob cyfle i gael cefnogaeth a buddsoddiad rhyngwladol..."

"Mae’r ffaith fod Caerdydd wedi gallu cael cymaint o arian Ewropeaidd i dyfu ei sylfaen ymchwil yn newyddion gwych i’r Brifysgol, Cymru, a’n heconomi ehangach.”

Julie James AC Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.