Dyfarnu Gwobr Ruth Solie i Dr David Beard
19 Tachwedd 2020
Dyfarnwyd Gwobr Ruth Solie am erthygl ragorol ar gerddoriaeth Brydeinig i gydweithiwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Dyfarnwyd Gwobr Ruth Solie i Dr David Beard gan y North American British Music Studies Association (NABMSA) am ‘yr erthygl fwyaf rhagorol ar bwnc yn ymwneud â cherddoriaeth Brydeinig' a gyhoeddwyd yn 2018–2019.
Enwyd y wobr a ddyfernir bob dwy flynedd er anrhydedd i Dr Ruth A. Solie, ail Lywydd NABMSA a chyn Lywydd yr American Musicological Society.
Cyhoeddwyd erthygl Dr Beard, ‘Out of the Air: Judith Weir’s Emergence in 1970s Britain, or Interpreting Creative Self-Censorship’, yn Music & Letters (Gwasg Prifysgol Rhydychen) ac mae'n archwilio cwestiynau rhywedd, derbyniad a chreadigrwydd mewn perthynas â chyfres o weithiau cynnar a dynnwyd yn ôl sy'n datgelu pwysigrwydd moderniaeth a'r avant-garde yn esblygiad iaith gerddorol Judith Weir.
Esbonia Dr Beard: "Caiff dialogau hanfodol yn y gweithiau hyn gyda chyfoeswyr cerddorol hŷn a modelau mwy hanesyddol eu dehongli drwy syniad cadarnhaol y damcaniaethwr economaidd Pierre Michel-Menger o ansicrwydd mewn creadigrwydd, a'i gred bod artistiaid ar eu hennill pan fyddant yn 'trafod, cydweithio a chyfnewid safbwyntiau... a'u gosod eu hunain yn lle'r llall llawn cymaint â chyfathrebu gyda'i gilydd'."
Dywedodd aelod o bwyllgor y wobr, yr Athro Allan Atlas: "Roedd erthygl Dr Beard yn drawiadol, o ran ei gwreiddioldeb a'i chyflwyniad. Roeddem ni i gyd yn meddwl ei bod yn sefyll fel cyfraniad sylweddol i faes ysgolheictod cerddoriaeth Brydeinig."
Dywedodd Dr Beard am y wobr: "Rwy'n hynod o ddiolchgar i dderbyn y wobr - mae'n anrhydedd. Er bod Judith Weir wedi cael gyrfa amrywiol a nodedig, a adlewyrchir yn ei rolau cyfredol fel Meistr Cerddoriaeth y Frenhines a Llywydd Cymdeithas Frenhinol Cerddorion Prydain Fawr, dyw hi ddim wedi cael digon o sylw ysgolheigaidd, diffyg y mae'r erthygl hon a fy monograff ar ei cherddoriaeth (dan gontract gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt) yn ceisio ei unioni."