Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwiliadau i opera gan Dr Clair Rowden

2 Hydref 2020

Dr Clair Rowden with two new publications

Mae Dr Clair Rowden wedi cyhoeddi dwy gyfrol newydd yn edrych ar hanes ehangach opera.

Mae Carmen Abroad, a olygwyd ar y cyd gyda'r Athro Richard Langham Smith (y Coleg Cerdd Brenhinol) yn edrych ar hanes trawswladol perfformiadau a'r derbyniad i Carmen gan Bizet, gan gynnig golwg newydd ar bresenoldeb a phoblogrwydd parhaol yr opera sy'n esblygu'n barhaus.

Mae gwefan wedi'i hariannu gan Leverhulme yn cyd-fynd â'r llyfr, Carmen Abroad, sy'n cynnig map a llinell amser rhyngweithiol i gynulleidfaoedd eang o berfformiadau o Carmen ar draws y byd dros gyfnod o 70 o flynyddoedd er mwyn gweld sut mae gwaith celf yn symud ac yn trawsnewid (drwy gyfieithu, addasu ac ati) drwy amser a gofod.

Trafod gwawdluniau'r wasg, cartwnau, caneuon poblogaidd, revues a pharodïau a lwyfannwyd mae Opera and Parody in Paris, 1860-1900 er mwyn darganfod rôl opera a'i barodïau yn yr amgylchedd theatrig, cymdeithasol  diwylliannol ehangach ym Mharis yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Carmen Abroad yw'r astudiaeth gyntaf sy'n dewis un opera poblogaidd ac yn asesu'r ffyrdd y cafodd ei addasu a'i ddefnyddio at wahanol ddibenion artistig, gwleidyddol a chymdeithasol mewn rhannau gwahanol o'r byd, a hynny gan berfformwyr a chynulleidfaoedd. Ar y llaw arall, mae Opera and Parody yn edrych ar ffenomen ddiwydiannol ac artistig eang nad yw wedi'i hastudio'n drylwyr mewn un ddinas i ddatgelu'r hyn roedd opera'n ei olygu i gynulleidfaoedd o bob math, yn uchel ael ac yn fwy poblogaidd.

Yr Athro Clair Rowden Professor of Musicology

“Opera a'i drawsnewidiadau sydd wrth galon y ddwy gyfrol sy'n ymdrin â chyfryngau artistig sy'n esblygu'n barhaus ac sy'n herio normau traddodiadol awduraeth sy'n gysylltiedig â chynhyrchion artistig. Nid yw opera heddiw yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel rhywbeth sy'n perthyn i'r 'bobl', ond roeddwn i am ddangos nad fel hyn fu pethau erioed, a bod gwir ystyr i opera i amrywiol gynulleidfaoedd, nid yn unig ym Mharis ond yn fyd-eang."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.