Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Arlene Sierra yn ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme

18 Mai 2020

Dr Arlene Sierra

Mae'r Athro Arlene Sierra wedi ennill Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme 2020.

Mae'r gymrodoriaeth yn cefnogi ei phrosiect "Ecoleg Gerddorfaol", sy'n waith cyfansoddiadol yn ymwneud â'i swydd newydd fel Cyfansoddwr Cyswllt gyda Symffoni Utah.

Elfen bwysig o’r prosiect yw perfformiad cyntaf Bird Symphony gan Arlene Sierra, dan arweiniad y Cyfansoddwr Cerddoriaeth Thierry Fischer. Mae perfformiadau wedi'u trefnu yn Neuadd Abravanel, Salt Lake City ym mis Ebrill 2021.

Bydd Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme yn galluogi'r Athro Sierra i fynd ar gyfnod sabothol o ddwy flynedd o addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn rhoi amser iddi ganolbwyntio ar gyfansoddi a phrosiect recordio newydd gyda Bridge Records.

Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedaeth Leverhulme fydd yn caniatáu i mi gael dwy flynedd i ganolbwyntio'n llwyr ar gyfansoddi symffonïau a phrosiect recordio cerddorfaol. Hoffwn ddiolch hefyd i'm cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi fy ngwaith yn barhaus ers fy mhenodiad yn 2004, ac sydd wedi f'annog i fynd ar ôl y cyfle gwych hwn.

Yr Athro Arlene Sierra Professor of Music Composition

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.