Ewch i’r prif gynnwys

Ystadegydd meddygol yn ennill gwobr nodedig i ddathlu menywod mewn STEM

16 Tachwedd 2020

Dr Rhian Daniel receiving Suffrage Science Award
Dr Rhian Daniel receiving the Suffrage Science Award

Dewiswyd ystadegydd meddygol o Brifysgol Caerdydd i dderbyn gwobr nodedig, gan ddathlu llwyddiannau menywod sy'n gweithio mewn STEM.

Roedd Dr Rhian Daniel ymhlith 11 o fathemategwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol i gael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Menywod mewn Gwyddoniaeth ar gyfer Mathemateg a Chyfrifiadureg yn gynharach y mis hwn.

Mae'r wobr yn cydnabod eu cyflawniadau gwyddonol a'r gwaith maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo mathemateg a chyfrifiadura ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Dim ond 24% o'r rhai sy'n gweithio mewn galwedigaethau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg craidd yn y DU sy'n fenywod o hyd – a dim ond 13% o fyfyrwyr sy'n astudio cyfrifiadureg a 36% yn astudio cyrsiau mathemateg.

Dywedodd Dr Daniel, darllenydd mewn ystadegau meddygol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, fod y wobr yn "syndod ac yn anrhydedd".

"Mae ymuno â'r rhwydwaith cynyddol o fenywod ysbrydoledig sydd wedi derbyn Gwobrau Menywod mewn Gwyddoniaeth yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd, yn enwedig ar adeg pan fo amrywiaeth a chynhwysiant yn y byd academaidd ar ein meddyliau yn fwy nag erioed," meddai.

Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddulliau o amcangyfrif cydberthnasau achos-effaith o ddata arsylwi cymhleth. Er enghraifft, pan fydd marciwr genetig wedi’i gysylltu â chlefyd dynol, mae hi'n gweithio ar ddulliau o ddatgysylltu'r llwybrau achosol niferus sy'n arwain at y berthynas hon.

Mae deiliaid blaenorol y gwobrau yn dewis 11 o enillwyr am eu cyflawniadau gwyddonol a’u gallu i ysbrydoli eraill. Mae'r "cyfnewid" gwyddonol hwn yn digwydd bob dwy flynedd a'i nod yw creu rhwydwaith ysbrydoledig o fenywod sy'n cael eu cysylltu â'r cynllun.

Enwebwyd Dr Daniel gan ei chyd-ystadegydd meddygol yr Athro Ruth Keogh, o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

"Mae Rhian yn fioystadegydd gwych ac mae wedi gwneud ymchwil hanfodol yn y maes hwn," meddai.

“Mae hi'n gydweithiwr cefnogol a hwyliog sydd bob amser yn cynnig ateb i broblem anodd ac mae'n oruchwylydd hael i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

"Mae Rhian hefyd yn fodel rôl i famau yn y byd academaidd, ac yn ystod y pandemig mae wedi bod yn cyfuno ei hymchwil, gan gynnwys gwaith gwyddonol yn ymwneud â COVID-19, gyda chyd-ofalu am ei dau blentyn bach."

Gemwaith a wnaed â llaw gan fyfyrwyr yn Central Saint Martins-UAL yw’r gwobrau o dan sylw, a fu’n gweithio gyda gwyddonwyr i ddylunio darnau a ysbrydolwyd gan ymchwil a’r mudiad dros roi pleidlais i fenywod:

Pattern of Thought by Veronika Fábián and Mathematical Beauty by Emine Gulsal
Patrwm Meddwl gan Veronika Fábián: Wedi’i wneud gan dâp aur tyllog, mae’r tlws yn adlewyrchu meysydd mathemateg a chyfrifiadureg. Bu gwyddonwyr cyfrifiadurol yn defnyddio tâp tyllog i anfon negeseuon testun, ac yn ddiweddarach ar gyfer storio data. Mae gan y tlws neges rymus – drwy ddatgodio’r gyfres o dyllau ar y tlws, datgelir brawddegau oddi ar dair o faneri mudiad y swffragetiaid; ‘Gweithredoedd nid Geiriau’, ‘Dewrder Cysondeb Llwyddiant’ a ‘Drwy bob trybini, daliwn ati’. Harddwch Mathemategol gan Emine Gulsal: Mae’r hafaliad mathemategol harddaf yn y byd, yn ôl nifer o fathemategwyr, eiπ+1= 0 wedi’i ysgythru ar ochr fewnol y freichled. Mae’r freichled yn symbol o nodweddion diderfyn a chymesur cylchoedd. Mae un berl ar ei phen ei hun wedi’i ymgorffori ar ochr allanol y freichled, sy’n gallu symud mewn cylch parhaus. Ei nod yw cyfleu ymdeimlad o’r grym a chryfder sydd gan fenywod.

Mae Gwobrau Menywod mewn Gwyddoniaeth yn ei thrydedd blwyddyn ac mae Sefydliad Gwyddorau Meddygol MRC Llundain yn curadu’r gwobrau.

Dywedodd yr Athro Fonesig Amanda Fisher, cyfarwyddwr y sefydliad, mai diben y gwobrau oedd "dathlu gwyddonwyr benywaidd, eu cyflawniadau gwyddonol a'u gallu i ysbrydoli eraill".

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun yma.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.